480 CC

6g CC - 5g CC - 4g CC
530au CC 520au CC 510au CC 500au CC 490au CC 480au CC 470au CC 460au CC 450au CC 440au CC 430au CC

485 CC 484 CC 483 CC 482 CC 481 CC 480 CC 479 CC 478 CC 477 CC 476 CC 475 CC

Digwyddiadau

  • Mis Mai — Xerxes I, brenin Ymerodraeth Persia a byddin enfawr yn cychwyn o Sardis trwy Thrace a Macedonia i ddechrau ei ymgyrch yn erbyn Gwlad Groeg.
  • 11 AwstBrwydr Thermopylae. Wedi ymladd caled yn erbyn llu bychan o Spartiaid, Thespiaid a Thebiaid dan Leonidas I, brenin Sparta, sy'n amddiffyn bwlch Thermopylae, mae'r Persiaid yn llwyr ddinistrio'r amddiffynwyr. Lleddir Leonidas a bron y cyfan o'i wŷr wedi iddynt wrthod ffoi.
  • Daw mab Leonidas, Pleistarchus, yn frenin Sparta yn ei le, ond gan ei fod yn dal yn blentyn, rheolir y deyrnas ar ei ran gan Pausanias.
  • Yr Atheniaid yn galw arweinwyr oedd wedi eu halltudio yn ôl i gynorthwyo yn yr ymgyrch yn erbyn y Persiaid dan arweiniad Themistocles , yn cynnwys Aristides a Xanthippus.
  • Awst — Brwydr Artemisium rhwng llynges Persia a llynges y Groegiaid ger arfordir gogleddol Euboea. Mae'r Persiaid yn dioddef colledion trwm, ond gorfodir y Groegiaid i encilio pan ddaw'r newyddion am Thermopylae.
  • 21 Medi — Y Persiaid yn cipio Athen. Mae trigolion Athen yn ffoi i ynys Salamis
  • 28 MediBrwydr Salamis. Gorchfygir y llynges Bersaidd yn llwyr gan lynges y cyngheiriaid Groegaidd dan Themistocles, gyda tua 200 o longau Persaidd yn cael eu suddo. * Wedi colli'r rhan fwyaf o'i lynges, mae Xerxes yn dychwelyd i Bersia, gan adael byddin dan Mardonius ar ôl yn Thessalia.

Genedigaethau

  • Euripides, dramodydd Groegaidd
  • Philolaus, mathemategydd ac athronydd Groegaidd

Marwolaethau

  • 11 Awst - Leonidas I, brenin Sparta.