90 CC

2g CC - 1g CC - 1g
140au CC 130au CC 120au CC 110au CC 100au CC - 90au CC - 80au CC 70au CC 60au CC 50au CC 40au CC
95 CC 94 CC 93 CC 92 CC 91 CC - 90 CC - 89 CC 88 CC 87 CC 86 CC 85 CC


Digwyddiadau

  • Rhyfel y Cyngheiriaid (91–88 CC) rhwng Gweriniaeth Rhufain a'i chyngheiriaid Eidalaidd yn parhau. Mae Pompeius Strabo a Gaius Marius yn ennill buddugoliaethau.
  • Yr Etrwsciaid yn cael dinasyddiaeth Rufeinig.
  • Y Lex Iulia yn rhoi dinasyddiaeth Rufeinig i bob Eidalwr nad oedd wedi gwrthwynebu Rhufain yn y rhyfel.
  • Cicero yn dechrau ei wasanaeth milwrol.
  • Nicomedes IV, brenin Bithynia yn cael ei orchfygu gan ei frawd Socrates mewn cynghrair a Mithridates VI, brenin Pontus. Mae Nicomedes yn ffoi i Rufain.

Genedigaethau

  • Aulus Hirtius, gwleidydd a hanesydd Rhufeinig
  • Diodorus Siculus, hanesydd Groegaidd (tua'r dyddiad yma)

Marwolaethau

  • Dionysios Trax, ieithydd Groegaidd
  • Antiochus X Eusebes, brenin Seleucaidd (tua'r dyddiad yma)