Abasan al-Kabera
![]() | |
Math | dinas ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Llywodraethiaeth Khan Yunis ![]() |
Gwlad | Gwladwriaeth Palesteina ![]() |
Uwch y môr | 77 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 31.3233°N 34.3469°E ![]() |
- Mae Abasan yn ailgyfeirio i'r dudalen yma. Am y dref gyfagos gweler Abasan al-Saghira.
Tref yn nhalaith Khan Yunis yn ne Llain Gaza, Palesteina, yw Abasan al-Kabera (hefyd Abasan al-Kabira; Arabeg: عبسان الكبيرة). Mae ffordd yn cysylltu'r dref a dinas Khan Yunis, gan basio trwy Bani Suheila.
Yn ôl cyfrifiad Awdurdod Cenedlaethol Palesteina, roedd gan Abasan boblogaeth o 19,000 yn 2006, gyda'r mwyafrif yn dibynnu ar amaethyddiaeth i ennill eu bywoliaeth.
Rhyfel 2008-2009
Ar 6 Ionawr 2009, ar 11eg ddiwrnod rhyfel Israel ar Gaza 2008-2009, ymosododd colofn o danciau Israelaidd gyda chefnogaeth hofrenyddion arfog ar ardal Khan Yunis. Yn ôl AFP, aeth y tanciau i mewn gyda'r wawr. Bu ymladd ffyrnig rhwng y milwyr Israeliaid a rhyfelwyr gwrthsefyll Hamas gyda'r brwydro'n drymaf yn nhref Abasan al-Kabera. Lladdwyd rhai sifiliaid yn Khan Yunis ei hun wrth i fomiau disgyn.[1]
Cyfeiriadau
- ↑ 'Israeli tanks enter Khan Yunis' 05.01.2009[dolen farw] Press TV.
Dolenni allanol
- (Arabeg) Abasan al-Kabera
- Delwedd lloeren GoogleMaps