Afon Drava
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | yr Eidal, Croatia, Awstria, Slofenia, Hwngari |
Cyfesurynnau | 46.722469°N 12.252989°E, 45.5439°N 18.9267°E |
Tarddiad | Innichen |
Aber | Afon Donaw |
Llednentydd | Isel, Möll, Lieser, Gurk, Lavant, Mur, Gail, Vellach, Meža, Sextner Bach, Dravinja, Rinya-patak, Bednja, Pesnica, Karašica, Gailbach, Seebach, Villgratenbach, Debantbach, Fekete-víz, Grajena, Rogoznica, Žitečki potok, Blažovnica, Bistrica, Kolberbach, Wölfnitzbach |
Dalgylch | 40,400 cilometr sgwâr |
Hyd | 720 cilometr |
Arllwysiad | 620 metr ciwbic yr eiliad |
Llynnoedd | Feistritzer Stausee, Ferlacher Stausee, Völkermarkter Stausee, Llyn Ptuj, Lake Ormož, Lake Varaždin, Llyn Dubrava |
Mae'r afon Drava neu afon Drafa yn ôl yr orgraff Gymraeg (Almaeneg: Drau, Hwngareg: Dráva) yn afon bwysig yn ne-ddwyrain Ewrop ac yn un o'r afonydd pwysicaf sy'n bwydo fewn i'r afon Donaw wrth iddi lifo tua'r dwyrain i'r Môr Du.
Hyd yr afon yw 720 km,[1] maint basn yr afon yw 40,400 km² (dwy waith maint Cymru) ac mae cymeriant o'r afon yn 610 m³ / s.
Cwrs yr Afon
Mae'r Drafa yn llifo trwy diriogaeth yr Eidal, Awstria, Slofenia, Croatia a Hwngari (gan ffurfio ei ffin ddeheuol).
Mae ffynhonnell y Drava yn yr Eidal, yn Alpau Carnic. Mae'r cymer, lle mae'r afon yn llifo i'r Donaw, yn Croatia, ger dinas Osijek.
Mae'r afon yn fordadwy am 650 km o ddinas Villach yn Awstria i'r cymer yn Croatia.
Isafonydd
Ceir sawl isafon sylweddol i'r Drava gan gynnwys y Gail (Awstria) (ar y dde); Gurk (Awstria), Mura (Croatia) (chwith). Y llednant fwyaf yw'r Mura.
Mae dinasoedd ar yr afon
- Awstria - Lienz, Spittal der Drau, Villach, Ferlach
- Slofenia - Dravograd, Rushe, Maribor, Ptuj, Ormozh
- Croatia - Varazdin, Osijek
Drwy gydol rhan helaeth o'i daith, mae'r Drava yn gweithredu fel y ffin rhwng Hwngari a Croatia. Mae rhannau ar wahân o'r afon a'r lan o'r ochr Hwngari yn cael eu diogelu dan warchodaeth ac maent yn rhan o Barc Cenedlaethol Donaw-Drafa.
Hanes
Ceir sôn am yr afon gan y milwr a'r hanesydd Rufeinig, Plinius yr Hynaf fel Draus. Gweler Sanskrit द्रवति, dravati("rhedeg", "llif"). Cyfeirir at yr afon fel 'Dravus gan y Rhufeinwr Sextus Rufus, ac fel Drabos gan yr hanesydd Rhufeinig arall, Strabo.[2] Mae'r geiriau topgraffegol, Dravit, yr Ambidravi yn ogystal â nifer o enwau lleoedd a meysydd yn cael eu henwi ar ôl y Drava.
Enwyd Banovina (rhanbarth) Drava yn ystod cyfnod Teyrnas Iwgoslafia ar ôl yr afon rhwng 1929 ac 1941. Roedd y rhanbarth yn dilyn, fwy neu lai, ffiniau y tirigoaeth Slofenia gyfoes (gan hepgor y tir oedd wedi ei reoli gan yr Eidal ar y pryd.
Oriel
-
Die Drau in Villach
-
Eisenbahnbrücke über den Ferlacher Stausee bei Strau, Stadtgemeinde Ferlach
-
Schilfbestandene Landzunge am Ferlacher Drau-Stausee unter der Hollenburg, Gemeinde Köttmannsdorf
-
Brücke der Loiblpass-Straße über den Ferlacher Stausee, im Hintergrund der Matzenberg
-
Drau-Stausee bei Rottenstein, Gemeinde Ebenthal
-
Drau von Westen bei Sankt Kanzian am Klopeiner See
-
Y Drafa yn Maribor (Marburg), Slofenia
Dolenni
- DrauDrava - old river and new sounds Archifwyd 2010-12-29 yn y Peiriant Wayback
- Drauradweg – 366km durch Italien, Österreich und Slowenien
- Drau/Drava – Alter Fluss und Neue Klänge – ein musikalisches Netzwerkprojekt Archifwyd 2010-12-29 yn y Peiriant Wayback
Cyfeiriadau
- ↑ Joint Drava River Corridor Analysis Report Archifwyd 2016-06-10 yn y Peiriant Wayback, 27 November 2014
- ↑ Egon Kühebacher (yn German), Die Ortsnamen Südtirols und ihre Geschichte, 2: Die geschichtlich gewachsenen Namen der Täler, Flüsse, Bäche und Seen, Bozen: Verlagsanstalt Athesia, pp. 51, ISBN 88-7014-827-0