Ail Ryfel Pwnig
Enghraifft o: | rhyfel |
---|---|
Rhan o | Rhyfeloedd Pwnig |
Dechreuwyd | 218 CC |
Daeth i ben | 201 CC |
Rhagflaenwyd gan | Rhyfel Pwnig Cyntaf |
Olynwyd gan | Trydydd Rhyfel Pwnig |
Lleoliad | Y Môr Canoldir, Italia, Hispania, Empúries, Affrica, Groeg yr Henfyd |
Yn cynnwys | Battle of Carteia, Siege of Saguntum, Battle of the Upper Baetis, Battle of New Carthage, Battle of Baecula, Brwydr Cannae, Battle of Zama |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Rhyfel rhwng Gweriniaeth Rhufain a Carthago, a ymladdwyd rhwng 218 CC a 202 CC oedd yr Ail Ryfel Pwnig yw'r term a ddefnyddir am gyfres o ryfeloedd rhwng 264 CC a 146 CC. Daw'r enw "Pwnig" o'r term Lladin am y Carthaginiaid, Punici, yn gynharach Poenici, oherwydd eu bod o dras y Ffeniciaid.
Yn y blynyddoedd yn dilyn y Rhyfel Pwnig Cyntaf, enillodd Carthago drefedigaethau newydd yn Sbaen dan arweiniad Hamilcar Barca, a daeth yn bwerus unwaith eto. Dechreuodd yr Ail Ryfel Pwnig yn Sbaen yn 202 CC. Penderfynodd y cadfridog Carthaginiaidd Hannibal, mab Hamilcar Barca, ymosod ar yr Eidal, ac arweiniodd fyddin yn cynnwys nifer sylweddol o eliffantod dros yr Alpau.
Yn ystod y blynyddoedd nesaf enillodd nifer o fuddugoliaethau syfrdanol dros y Rhufeiniaid, yn arbennig ym mrwydrau Trebia, Trasimene a Cannae. Mae tactegau Hannibal ym mrwydr Cannae yn parhau i gael eu hastudio heddiw. Lladdwyd rhwng 50,000 a 70,000 o Rufeinwyr yn y frwydr yma, sy’n yn ei gwneud yn un o’r brwydrau un diwrnod mwyaf gwaedlyd a gofnodir.
Problem Hannibal oedd nad oedd ganddo’r offer angenrheidiol i gipio dinasoedd caerog. Gobeithiai y byddai’r dinasoedd oedd yn cefnogi Rhufain yn troi i gefnogi Carthago yn dilyn ei lwyddiannau milwrol. Gwireddwyd hyn i raddau; er enghraifft trôdd dinas Capua at y Carthaginiaid. Yn raddol dysgodd y Rhufeiniaid oddi wrth Hannibal ei hun, a gwnaethant eu gorau i osgoi brwydr yn erbyn prif fyddin Hannibal. Yn 207 CC gorchfygwyd a lladdwyd ei frawd Hasdrubal Barca pan geisiodd arwain byddin arall i’r Eidal i atgyfnerthu Hannibal..
Yn 203 CC, gorfododd ymosodiad Rhufeinig ar Ogledd Affrica dan arweiniad Scipio Africanus ef i adael yr Eidal i amddiffyn Carthago. Gorchfygwyd ef gan y Rhufeiniaid ym Mrwydr Zama. Yn 202 CC bu raid i Carthago dderbyn telerau Rhufain ac ildio, gan golli ei threfedigaethau a gorfod talu swm fawr o arian i Rufain dros gyfnod o flynyddoedd.