Akranes

Akranes
Mathdinas Edit this on Wikidata
Poblogaeth7,997 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1604 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+00:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iBwrdeistref Västervik, Närpes, Bamble Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirAkraneskaupstaður Edit this on Wikidata
GwladBaner Gwlad yr Iâ Gwlad yr Iâ
Arwynebedd9 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr9 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaHvalfjarðarsveit Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau64.3167°N 22.1°W Edit this on Wikidata
Cod post300 Edit this on Wikidata
Map Akraneskaupstadur
Map o'r ardal
Ynghanu'r enw Akranes

Mae Akranes (IPA:ˈaːkraˌnɛːs) yn borthladd a bwrdeisdref ar arfordir orllewinnol Gwlad yr Iâ ac yn gorwedd oddeutu 20 km (12 mi) i'r gogledd o'r brifddinas, Reykjavík. Mae Akranes yn Rhanbarth Vesturland. Ar 1 Ionawr 2017 poblogaeth y dref oedd 7,051. Hi yw'r dref fwyaf yng ngorllewin Gwlad yr Iâ.

Gwladychwyd Akranes yn y 9g ond bu'n rhaid aros nes 1942 cyn i'r dref dderbyn siarter bwrdeisdref.

Hanes

Sonia'r Landnámabók i Akranes gael ei gwladychu yn y 9g gan y brodyr Þormóður a Ketill, meibion Bresi. Daethont o'r Iwerddon. Dechreuodd y lle ymffurfio'n dref yng nghanol y 17g a hynny fel pentref bysgota. Yn 1942 fe roddwyd siarter iddi ac yn y blynyddoedd a ddilynodd cododd poblogaeth y dref yn sydyn iawn.

Ceir sawl diwydiant a chydlogwr yn y dref. Agorwyd ffatri sment yn yr 1950au a gorsaf mwyndoddi alwminiwm yn 1998.

Akranes Gyfoes

Mae'r diwydiant bysgota yn parhau i fod yn un o brif gyflogwyr y dref ond mae masnach hefyd yn gyflogwyr sylweddol arall wrth i Akranes weithredu fel canolfan wasanaethu ar gyfer ardal wledig y tu cefn iddi.

Disgwylir i'r dref i dyfu ymhellach yn sgil gwella trafnidiaeth gydag ardal Reykjavík Fawr yn dilyn adeiladu Twnnel Hvalfjörður sydd 5.57 km-long (3.46 mi) o hyd yn 1998. Dyma un o dwneli tan-ddŵr hiraf y byd.

Poblogaeth

Dyddiad Poblogaeth
1. Rhag. 1981: 5.267
1. Rhag. 1997: 5.127
1. Rhag. 2003: 5.582
1. Rhag. 2004: 5.655
1. Rhag. 2005: 5.782
1. Rhag. 2006: 5.955
1. Rhag. 2007: 5.976
1. Rhag. 2008: 6.401
1. Dez. 2009: 6.609
1. Dez. 2010: 6.549

Chwaraeon

Mae'r dref yn gartref i glwb chwaraeon, Íþróttabandalag Akraness.

Mae gan Akranes draddodiad pêl-droed hir. Mae'r tîm lleol, ÍA Akranes, wedi bod ymysg timau gorau'r wlad ers blynyddoedd. Ganed cyn chwaraewr Sheffield Wednesday ac Arsenal, y chwaraewr canol cae, Siggi Jonsson yn Akranes a bu'n chwarae gydag ÍA ar dri cyfnod gwahanol.

Amgueddfa Werin

Lleolir Amgueddfa Werin Akranes yn y dref. Mae'r (Byggðasafnið í Görðum Akranesi) yn Garðar. Mae'n cynnwys arddangosfeydd ac arteffactau tu fewn a hefyd fel amgueddfa awyr agored yn debyg i Amgueddfa Werin Cymru. Sefydlwyd yr Amgueddfa yn 1953.[1]

Enwogion

Jón Óskar - bardd

Gefailldrefi

Mae Akranes wedi gefeillio â'r trefi isod:

Oriel

Cyfeiriadau

  1. Akranes Folk Museum – Collection policy (not accessible on the web).

Dolenni allanol