Alcides Arguedas
Alcides Arguedas | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 15 Gorffennaf 1879 ![]() La Paz ![]() |
Bu farw | 8 Mai 1946, 6 Mai 1946 ![]() Chulumani ![]() |
Dinasyddiaeth | Bolifia ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, llenor, hanesydd, diplomydd, historiographer ![]() |
Swydd | deputy of Bolivia, senator of Bolivia ![]() |
Arddull | nofel, nofel fer, traethawd ![]() |
Nofelydd, newyddiadurwr, cymdeithasegydd, hanesydd, gwleidydd a diplomydd Bolifiaidd oedd Alcides Arguedas (15 Gorffennaf 1879 – 8 Mai 1946).
Ganwyd yn La Paz, Bolifia. Astudiodd gymdeithaseg ym Mharis, a chychwynnodd ar yrfa wleidyddol. Cynrychiolodd ei wlad yn Llundain, Paris, Colombia, a Feneswela, a bu'n arweinydd y Blaid Ryddfrydol ac yn gwasanaethu'n ddirprwy ac yn seneddwr. Fe'i penodwyd yn weinidog amaeth yn 1940. Ysgrifennodd sawl nofel am frodorion Bolifia, gan gynnwys Raza de bronce (1919), un o weithiau cyntaf y mudiad indigenismo. Mae Arguedas hefyd yn nodedig am astudiaethau ysgolheigaidd megis Pueblo enfermo (1909) ac Historia general de Bolivia (1922). Bu farw yn Chulumani yn 66 oed.[1]
Cyfeiriadau
- ↑ (Saesneg) Alcides Arguedas. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 24 Medi 2019.