Alexander Glazunov

Alexander Glazunov
Ganwyd29 Gorffennaf 1865 (yn y Calendr IwliaiddEdit this on Wikidata
St Petersburg Edit this on Wikidata
Bu farw21 Mawrth 1936 Edit this on Wikidata
Neuilly-sur-Seine, Paris Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Rwsia Rwsia
Galwedigaethcyfansoddwr, arweinydd, addysgwr, cerddolegydd, athro cerdd, academydd, pianydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Saint Petersburg Conservatory Edit this on Wikidata
Adnabyddus amString Quartet No. 2, Saxophone Concerto Edit this on Wikidata
Arddullsymffoni, cerddoriaeth glasurol Edit this on Wikidata
Gwobr/auArtist Pobl yr RSFSR Edit this on Wikidata

Roedd Alexander Konstantinovich Glazunov (10 Awst 186521 Mawrth 1936) yn gyfansoddwr, athro ac arweinydd o Rwsia. [1]

Dechreuodd gyfansoddi pan oedd yn un ar ddeg oed, derbyniodd wersi preifat gyda Nikolai Rimsky-Korsakov.[2] Cyfansoddodd ei symffoni gyntaf pan oedd yn 16 oed.[3] Rhwng 1898 a 1900, ysgrifennodd dri bale newydd, gafodd eu perfformiad cyntaf yn St Petersburg. Glazunov oedd yn arwain perfformiad cyntaf Symffoni rhif 1 Rachmaninoff yn 1897. Credir ei fod wedi meddwi yn ystod y perfformiad oherwydd roedd yn hunllef. Yn 1905, cafodd ei ddewis i fod yn gyfarwyddwr ar Ysgol Gerddoriaeth St Petersburg. Yn 1928, teithiodd ar draws Ewrop ac UDA. Ar ôl hyn, setlodd ym Mharis.

Bu farw Glazunov yn 1936 Neuilly-sur-Seine ger Paris. Yn 1972, symudwyd ei weddillion i Leningrad.

Cerddoriaeth

Cyfansoddodd Glazunov 8 symffoni, mae ei 9fed symffoni yn an-orffenedig. Ysgrifennodd bump concerto (2 piano; 1 ffidil; 1 sielo; 1 sacsoffon), tri bale a llawer mwy o gerddoriaeth cerddorfa a phiano.

Cyfeiriadau

  1. "Aleksandr Glazunov | Britannica". www.britannica.com. Cyrchwyd 1 Chwefror 2024.
  2. "Alexander Glazunov". www.wisemusicclassical.com. Cyrchwyd 1 Chwefror 2024.
  3. The Oxford Companion to Music. gol. Alison Latham.
Baner RwsiaEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Rwsiad. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.