Andrew Bonar Law

Andrew Bonar Law
Ganwyd16 Medi 1858 Edit this on Wikidata
Rexton Edit this on Wikidata
Bu farw30 Hydref 1923 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Yr Alban Yr Alban
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, chwaraewr gwyddbwyll Edit this on Wikidata
SwyddArweinydd yr Wrthblaid, Canghellor y Trysorlys, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Arweinydd y Tŷ Cyffredin, Arweinydd y Blaid Geidwadol, Arglwydd y Sêl Gyfrin, Ysgrifennydd Gwladol dros y Trefedigaethau, Parliamentary Secretary to the Board of Trade, Arweinydd y Blaid Geidwadol, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 32ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 31ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 30ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 29fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 28ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 27ain Senedd y Deyrnas Unedig, Arweinydd y Tŷ Cyffredin Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Plaid Wleidyddoly Blaid Geidwadol Edit this on Wikidata
TadJames Law Edit this on Wikidata
MamEliza Kidston Edit this on Wikidata
PriodAnnie Pitcairn Robley Edit this on Wikidata
PlantRichard Law, Isabel Harrington Law, Catherine Edith Mary Law, James Kidston Law, Charles Law, Harrington Law Edit this on Wikidata
Chwaraeon
llofnod

Gwleidydd Albanaidd Ceidwadol oedd Andrew Bonar Law PC (16 Medi 185830 Hydref 1923), a adnabuwyd yn gyffredin fel Bonar Law. Ganwyd yng ngwladfa newydd New Brunswick, ef oedd unig Prif Weinidog y Deyrnas Unedig i gael ei eni tu allan i Ynysoedd Prydain, a'r un a wasanaethodd y tymor byrraf yn yr 20g gan wasanaethu ond 211 diwrnod yn y swydd.

Bywgraffiad

Ganwyd Law yn fab i bregethwr gwledig a'i wraig yn New Brunswick, ac yno treuliodd ei fywyd cynnar. Ychydig flynyddoedd wedi marwolaeth ei fam ym 1861, ail-briododd ei dad, a symudodd Law i Helensburgh, yr Alban, i fyw gyda chwaer ei fam Janet a'i theulu, a redodd fanc masnachwyr llwyddiannus. Wedi iddo gael ei addysgu mewn ysgol baratoadol yn Hamilton ac Ysgol Uwchradd Glasgow, gadawodd Law yr ysgol yn 16 oed i gael "addysg masnachol" yng nghwmni'r teulu. Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach gwerthwyd y cwmni i'r Clydesdale Bank, gan roi gyrfa Law mewn perygl tan i'w ewythrod rho benthyg arian iddo brynu partneriaeth mewn cwmni masnachwyr haearn. Trwy waith caled a chraffter busnes Law, ffynnodd y cwmni o dan ei arweinyddiaeth, ac erbyn iddo droi'n 30 oed roedd yn gymharol gyfoethog.

Aeth Law i mewn i wleidyddiaeth yn gyntaf ym 1897, pan ofynwyd iddo ddod yn ymgeisydd Ceidwadol ar gyfer seddi Glasgow Bridgeton ac yna Glasgow Blackfriars a Hutchesontown, gan dderbyn Blackfriars. Er y bu mwyafrif cryf Rhyddfrydol yn ei sedd, ymgyrchodd Law yn llwyddiannus ar gyfer Etholiad Cyffredin 1900 ac aeth i'r Senedd. Yn Nhŷ'r Cyffredin, daeth yn enwog am ei gof ardderchog a'i areithyddiaeth, ac yn fuan enillodd safle ar fainc blaen y Ceidwadwyr. Bu'n gefnogwr cryf o'r diwygiad tollau, ac apwyntiwyd Law yn Ysgrifennydd Seneddol y Bwrdd Masnach ym 1902.

Rhannwyd y Blaid Geidwadol gan y mater o'r diwygiad tollau, ac ymddeolodd y Prif Weinidog Arthur Balfour, gan annog Etholiad Cyffredin lle gwthiwyd y Blaid Geidwadol i safle'r wrth blaid. Mewn gwrthwynebiad, parhaodd Law i ddadlau dros ddiwygiad tollau, yn y Senedd ac o fewn ei blaid, gan osgoi yn gyffredinol yr argyfwng cyfansoddiadol o amgylch Cyllid y Bobl ym 1909. Apwyntiwyd ef yn Gyngorydd Cyfrin y flwyddyn honno gan ei nodi fel Ceidwadwr blaengar, a pan ddaeth yn amlwg y byddai Arthur Balfour yn ymddeol fel Arweinydd y Blaid Geidwadol, rhoddodd Law ei enw ymlaen. Er y bu'n rhedeg yn drydydd ar ôl Walter Long ac Austen Chamberlain, enillodd Law'r etholiad yn y pen draw pan holltwyd y blaid gan y posibilrwydd cryf y buasai Long a Chamberlain yn tynnu'n hafal, a thynnodd y ddau allan o'r etholiad.

Fel Arweinydd y Blaid Geidwadol, canolbwyntiodd Law ar ddwy brif fater; diwygiad tollau, a gefnogodd, a Hunanlywodraeth Iwerddon, a wrthwynebodd. Fel arweinydd y gwrthblaid nid oedd mewn sefyllfa lle gall wneud unrhyw newidiadau, ond cafodd ei ymgyrchu cryf yr effaith o droi ymdrechion y Rhyddfrydwyr i basio'r Trydydd Mesur Hunanlywodraethu yn frwydr a barhaodd tair mlynedd cyn cael ei atal yn y pen draw gan ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf.

Cyfeiriadau