Elfen gemegol yw antimoni (symbol Sb) sy'n un o elfennau'r tabl cyfnodol. Yn ôl pob tebyg roedd eisoes yn adnabyddus i drigolion yr Henfyd cyn iddi gael ei disgrifio'n wyddonol am y tro cyntaf gan Tholden yn 1450. Mae i'w cael mewn natur fel elfen a hefyd fel rhan o'r cyfansoddyn swlffid stibneit (stibnite: Sb2S3).
Ei symbol yw Sb a'i rif atomig yw 51. Mae'n perthyn i'r grŵp hwnnw a elwir yn fetaloidau.