Aquitaneg
Aquitaneg oedd yr iaith a siaredid gan bobl yr Aquitani, a oedd yn trigo yn yr ardal a adwaenid gan y Rhyfeiniaid fel Novempopulania, yn ddiweddarach Aquitaine yn ne-orllewin Ffrainc.
Mae'r iaith o ddiddordeb oherwydd fod tystiolaeth o enwau lleoedd ac archaeoleg sy'n awgrymu fod gan yr iaith berthynas glos a'r iaith Fasgeg neu'n dafodiaith o'r Fasgeg. Y dystiolaeth bwysicaf yw cyfres o arysgrifau Lladin sy'n cynnwys tua 400 o enwau personol a 70 o enwau duwiau yn yr iaith Aquitaneg.