Arcadius
Arcadius | |
---|---|
Ganwyd | 1 Ionawr 377 ![]() Hispania ![]() |
Bu farw | Caergystennin ![]() |
Dinasyddiaeth | yr Ymerodraeth Fysantaidd, Rhufain hynafol ![]() |
Galwedigaeth | gwleidydd ![]() |
Swydd | seneddwr Rhufeinig, Ymerawdwr Bysantaidd ![]() |
Dydd gŵyl | August 27 ![]() |
Tad | Theodosius I ![]() |
Mam | Aelia Flaccilla ![]() |
Priod | Aelia Eudoxia ![]() |
Plant | Pulcheria, Theodosius II, Arcadia, Flaccilla, Marina ![]() |
Llinach | Llinach Theodosius ![]() |
Ymerawdwr Rhufeinig yn y dwyrain o 395 hyd 408 oedd Flavius Arcadius (377/378 – 1 Mai 408).
Arcadius oedd mab hynaf yr ymerawdwr Theodosius I ac Aelia Flaccilla. Cyhoeddodd ei dad ef yn Augustus yn Ionawr 383, a chyhoeddwyd ei frawd iau, Honorius, yn Augustus hefyd yn 393.
Wedi dod yn ymerawdwr, roedd Arcadius dan reolaeth un o'i uchel swyddogion, Rufinus, tra'r oedd Honorius yn y gorllewin dan reolaeth Stilicho. Llofruddiwyd Rufinus yn 395, ond yna daeth Arcadius dan reolaeth Eutropius, nes i wraig Arcadius, Aelia Eudoxia, ei berswadio i ddiswyddo Eutropius yn 399. Gallodd Eudoxia hefyd ddiswyddo Ioan Chrysostom fel Patriarch Caergystennin yn 404, ond bu hi farw yr un flwyddyn.
Am y gweddill o'i fywyd, Anthemius, pennaeth Gard y Paretoriwm, oedd a'r gwir rym. Bu farw Arcadius yn 408, a dilynwyd ef gan ei fab Theodosius II.