Ardal Lichfield
Math | ardal an-fetropolitan ![]() |
---|---|
Ardal weinyddol | Swydd Stafford |
Prifddinas | Caerlwytgoed ![]() |
Poblogaeth | 108,352 ![]() |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Stafford |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 331.2944 km² ![]() |
Cyfesurynnau | 52.6809°N 1.8276°W ![]() |
Cod SYG | E07000194 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | council of Lichfield District Council ![]() |
Ardal an-fetropolitan yn Swydd Stafford, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Ardal Lichfield (Saesneg: Lichfield District).
Mae gan yr ardal arwynebedd o 313.8 km², gyda 103,965 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2018.[1] Mae'r ardal yn ne-ddwyrain Swydd Stafford. Mae'n ffinio â phedair ardal arall Swydd Stafford, sef Ardal Dwyrain Swydd Stafford, Bwrdeistref Tamworth, Ardal Cannock Chase a Bwrdeistref Stafford, yn ogystal â siroedd Swydd Derby a Swydd Warwick i'r dwyrain a Gorllewin Canolbarth Lloegr i'r de.
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/3/37/Lichfield_UK_locator_map.svg/220px-Lichfield_UK_locator_map.svg.png)
Ffurfiwyd yr ardal dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974. Cyfunodd yr hen awdurdodau lleol Dinas Lichfield ac Ardal Wledig Lichfield.
Rhennir yr ardal yn 28 o blwyfi sifil. Mae ei phencadlys yn ninas gadeiriol Caerlwytgoed (Lichfield). Mae'n cynnwys tref Burntwood hefyd.
Cyfeiriadau
- ↑ City Population; adalwyd 22 Mawrth 2020