Ardal Lywodraethol Amman
Math | Ardaloedd Llywodraethol Gwlad Iorddonen |
---|---|
Prifddinas | Amman |
Poblogaeth | 4,007,526 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwlad Iorddonen |
Gwlad | Gwlad Iorddonen |
Arwynebedd | 7,579.2 km² |
Yn ffinio gyda | Ardal Lywodraethol Zarqa, Ardal Lywodraethol Ma'an, Ardal Lywodraethol Madaba, Ardal Lywodraethol Karak, Balqa Governorate |
Cyfesurynnau | 31.9497°N 35.9328°E |
JO-AM | |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.746 |
Enw swyddogol Ardal Lywodraethol Amman yw Muhafazat al-Asima (neu mewn Arabeg: محافظة العاصمة), sy'n un o 12 o ardaloedd llywodraethol yng Ngwlad Iorddonen. Prifddinas yr ardal yw Amman, sydd hefyd yn brifddinas i'r wlad gyfan. Lleolir y swyddfeydd gweinyddol yr ardal a Llywodraeth y wlad ym maestref Abdali.
Mae poblogaeth Ardal Lywodraethol Amman yn uwch nag unrhyw un o'r ardaloedd llywodraethol eraill yn yr Iorddonen. I'r gogledd a'r gogledd-ddwyrain, mae'n ffinio gydag Ardal Lywodraethol Zarqa, ac ac ardaloedd llywodraethol Balqa a Madaba i'r gorllewin ac ardaloedd llywodraethol Karak a Ma'an i'r de. Mae hefyd yn rhannu ffin rhywladol gyda Saudi Arabia i'r gorllewin.[1]
Hanes
Bu pobl yn byw yn yr ardal yma ers cynhanes a cheir adfeilion yma o sawl gwareiddiad, mor gynnar â 7250 CC yn 'Ain Ghazal ger Amman; y safle hwn yw un o'r aneddiadau cynhanesyddol mwyaf yn y Dwyrain Canol.
Amman oedd prifddinas cadarn yr Ammoniaid, "Rabbath Ammon" oedd eu henw hwy ar y lle. Roedd yr Ammoniaid yn rheoli bron holl dir Ardal Lywodraethol Amman. Ar ôl i'r Rhufeiniaid gymryd rheolaeth o'r rhanbarth, cafodd Amman ei ailenwi'n "Philadelphia", ac roedd yn un o'r deg dinas Decapolis Rufeinig. Yn dilyn y goncwest Mwslemaidd-Arabaidd, dechreuwyd ail-ddefnyddio'r enw 'Amman'. Dynodwyd y safle Bysantaidd Umm ar-Rasas yn Safle Treftadaeth y Byd yn 2004.
Daearyddiaeth
Hinsawdd Môr y Canoldir Dwyreiniol yw hinsawdd yr ardal. Fodd bynnag, gan fod Amman wedi'i leoli ar lwyfandir bryniog, gall y dyddodiad a'r tymheredd blynyddol cyfartalog amrywio'n sylweddol o un lleoliad i'r llall, hyd yn oed o fewn dinas Amman. Er enghraifft, gall fod yn bwrw eira yn ardal Sweileh sydd â drychiad o 1,050m uwchlaw lefel y môr, ond yn gymylog heb unrhyw law yng nghanol dinas Amman, sydd â drychiad o 780m. O ran arwynebedd, Ardal Lywodraethol Amman yw'r ardal mwyaf ond un yng Ngwlad Iorddonen, a'r mwyaf yn ôl poblogaeth.
Poblogaeth
Rhanbarthau
Mae poblogaeth y Rhanbarthau, yn ôl y cyfrifiad fel a ganlyn:[2][3][4]
Rhanbarth | Poblogaeth (Cyfrifiad 1994) |
Poblogaeth (Cyfrifiad 2004) |
Poblogaeth (Cyfrifiad 2015) |
---|---|---|---|
Ardal Lywodraethol Amman | 1,576,238 | 1,942,066 | 4,007,526 |
Al-Jāmi'ah | ... | 279,359 | 743,980 |
Al-Jīzah | 32,446 | 42,051 | 118,004 |
Al-Mūaqqar | 18,239 | 30,017 | 84,370 |
Al-Quwaysimah | ... | 257,260 | 582,659 |
Mārkā | ... | 483,819 | 956,104 |
Nā'ūr (Na'our) | 37,281 | 66,220 | 129,650 |
Qaṣabah 'Ammān | ... | 552,511 | 855,955 |
Saḥāb | 49,060 | 57,037 | 169,434 |
Wādī as-Sīr | 132,195 | 173,792 | 367,370 |
Cyfeiriadau
- ↑ "Sub-national HDI - Area Database - Global Data Lab". hdi.globaldatalab.org (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-09-13.
- ↑ "Jordan: Administrative Division, Governorates and Districts". citypopulation.de. Cyrchwyd 25 Rhagfyr 2016.
- ↑ "DOS Jordan 1994 Census". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-07-22. Cyrchwyd 2019-04-14.
- ↑ [https://web.archive.org/web/20110722071314/http://www.dos.gov.jo/dos_home/census2004/cen04_3.pdf/table_3_1.pdf 2 Gorffennaf 2011}