Artaxerxes III, brenin Persia
Artaxerxes III, brenin Persia | |
---|---|
Ganwyd | 425 CC |
Bu farw | 1 Awst 338 CC o gwenwyn Babilon |
Dinasyddiaeth | Yr Ymerodraeth Achaemenaidd |
Galwedigaeth | brenin neu frenhines |
Swydd | Pharo, brenin |
Tad | Artaxerxes II, brenin Persia |
Mam | Stateira |
Priod | Atossa |
Plant | Artaxerxes IV, brenin Persia, Parysatis II, Bistanes |
Llinach | Brenhinllyn yr Achaemenid |
Brenin Ymerodraeth Persia rhwng 358 CC a 338 CC oedd Artaxerxes III, brenin Persia, (Hen Berseg: Artaxšaçrā, c. 425 CC - 338 CC), enw gwreiddiol Ochus.
Roedd yn fab i Artaxerxes II. Bu'n satrap ac yn gadfridog cyn olynu ei dad ar yr orsedd yn 358 CC. Roedd un o'i frodyr wedi ei ddienyddio ac un arall wedi ei ladd ei hun cyn marwolaeth Artaxerxes II yn 90 oed. Llofruddiodd Artaxerxes III y gweddill o'r teulu brenhinol wedi dod i'r orsedd.
Bu'n ymgyrchu yn yr Aifft ddwywaith. Methodd yr ymgyrch gyntaf, ond yn 343 CC, gorchfygodd Artaxerxes frenin yr Aifft, Nectanebo II, a'i yrru o'r wlad, gan ddychwelyd yr Aifft i'r Ymerodraeth.
Olynwyd ef gan ei fab, Arses, fel Artaxerxes IV.
Rhagflaenydd: Artaxerxes II |
Brenin Ymerodraeth Achaemenid Persia 358 CC – 338 CC |
Olynydd: Artaxerxes IV |
Rhagflaenydd: Nectanebo II |
Brenin yr Aifft 343 CC – 338 CC |
Olynydd: Artaxerxes IV |