Bae Ceredigion

Bae Ceredigion
Mathbae Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolMôr Iwerddon Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Yn ffinio gydaAberystwyth Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.5°N 4.42°W Edit this on Wikidata

Bae yn Sianel San Siôr yng ngorllewin Cymru yw Bae Ceredigion. Mae'r siroedd Gwynedd, Ceredigion a gogledd Sir Benfro yn ffinio â Bae Ceredigion. Gorwedd Penrhyn Llŷn i'r gogledd. Ceir tir amaeth da ar lannau'r bae.

Bae Ceredigion

Natur a daearyddiaeth

Nodweddir arfordir y bae gan nifer o draethau braf gyda thywod gwyn. Mae bywyd gwyllt yr ardal yn unigryw ac yn cynnwys poblogaeth bwysig o ddolffinau a nifer o adar môr.

Golygfa ar Ynysoedd Tudwal ym mhen gogleddol Bae Ceredigion

Trefi

Afonydd

Mae sawl afon yn llifo i'r bae. Y pwysicaf yw:

Ynysoedd

Er nad oes llawer o ynysoedd yn y bae mae'n cynnwys un o ynysoedd pwysicaf Ynys Enlli, ynghyd ag Ynysoedd Tudwal yn y gogledd ac Ynys Aberteifi ac Ynys Lochdyn yn y de.

Hanes a thradodiadau

Hyd at yr 20g roedd trefi a phorthladdoedd Bae Ceredigion yn gartref i ddiwydiant morol pur sylweddol. Hwyliai llongau o Borthmadog dros Gefnfor Iwerydd ac i Ewrop, a bu Aberteifi yn bwysicach na Chaerdydd fel porthladd ar un adeg.

Yn llên gwerin Cymru, cysylltir y bae â sawl chwedl. Y fwyaf adnabyddus yn ddiau yw chwedl Cantre'r Gwaelod, y cantref a foddiwyd gan y môr ar noson stormus diolch i esgeulusdod Seithenyn. Ceir yn ogystal sawl traddodiad am fôr-forwynion, yn arbennig yng Ngheredigion.

Cyfeiriadau