Baner enfys (mudiad LHDT)

Mae'r faner enfys yn arwyddlun o falchder mudiadau cymdeithasol lesbiaidd, hoyw, deurywiol, a thrawsrywdd (LHDT) ers y 1970au.

Mae'r faner enfys, a adweinir weithiau fel baner balchder hoyw a baner balchder LHDT, yn arwyddlun o falchder mudiadau cymdeithasol lesbiaidd, hoyw, deurywiol, a thrawsrywdd (LHDT). Gall ddefnyddiau eraill baneri enfys gynnwys bod yn arwyddlun o heddwch. Mae'r lliwiau yn enghreifftio amrywiaeth y gymuned LHDT, a defnyddir y faner yn aml yn arwyddlun o falchder hoyw pan ddigwydd orymdeithiau hawliau pobl LHDT. Mae â'i tharddiad yng Ngogledd Califfornia, ond bellach defnyddir hi yn fyd eang.

Darluniwyd y faner gan Gilbert Baker o San Francisco ym 1976 ac ers hynny bu sawl newidiad iddi, megis tynnu ac ail-ychwanegu lliwiau yn ôl y ffabrigau sydd ar gael.[1][2] Ers 2008, mae'r faner mwyaf cyffredin yn cynnwys chwe streipen o goch, oren, melyn, gwyrdd, glas, a fioled. Fel arfer, y streipen goch sydd flaenaf fel mewn enfys naturiol.

Y lliwiau

Y faner wreiddiol ag wyth streipen gan Gilbert Baker (1978)

Fersiwn â'r pinc poeth wedi;i dynnu oherwydd anargaeledd y ffabrig (1978–79)

Y faner boblogaidd â chwe streipen ers 1979. Newidiwyd indigo a gwyrddlas i las brenhinol.

Roedd gan y faner wreiddiol wyth streipen ac arnynt ystyron penodol:

Lliw Ystyr
Pinc poeth Rhywioldeb
Coch Bywyd
Oren Iacháu
Melyn Heulwen
Gwyrdd Natur
Gwyrddlas Hud/celfyddydau
Indigo/glas Sirioldeb/cytgord
Fioled Ysbryd

Nodiadau

Cyfeiriadau

  • The National Museum & Archive of Lesbian and Gay History (1996). The Gay Almanac. New York City, Berkeley Books. ISBN 0-425-15300-2.
  • Witt, Lynn, Sherry Thomas & Eric Marcus (1995). Out in All Directions: The Almanac of Gay and Lesbian America. New York, Warner Books. ISBN 0-446-67237-8.