Baner Angola
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/9/9d/Flag_of_Angola.svg/250px-Flag_of_Angola.svg.png)
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/6/68/FIAV_111111.svg/23px-FIAV_111111.svg.png)
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/c/c2/Flag_of_MPLA.svg/220px-Flag_of_MPLA.svg.png)
Baner ddeuliw lorweddol gyda stribed uwch coch a stribed is du gyda symbolau hanner olwyn gocos, cyllell machete, a seren felen yn ei chanol yw baner Angola. Mae'n seiliedig ar faner y Mudiad Poblogaidd i Ryddhau Angola (MPLA), a wnaeth rhyddhau'r wlad o Bortiwgal yn 1975: baner ddeuliw coch-du gyda seren felen yn ei chanol. Ychwanegwyd yr hanner olwyn gocos (i gynrychioli diwydiant) a'r machete (i gynrychioli amaeth) pan fabwysiadwyd yn swyddogol fel y faner genedlaethol ar 11 Tachwedd, 1975 er mwyn creu arwyddlun oedd yn cofio morthwyl a chryman y faner Sofietaidd.
Gweler Hefyd
Gweler hefyd Baner Cymuned Gwledydd yr Iaith Portiwgaleg y mae Angola yn aelod ohoni.
ffynonellau
- Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)