Baner Twrci


Maes coch gyda seren a chilgant gwyn yn y canol tuag at yr hoist yw baner Twrci. Mae'r defnydd o faner goch i gynrychioli Twrci o fewn Ymerodraeth yr Otomaniaid yn dyddio yn ôl i'r ail ganrif ar bymtheg. Ymddangosodd y seren yn gyntaf yn 1793, gydag wyth pwynt; erbyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg cynnar roedd ganddi'r pum pwynt sydd ganddi heddiw. Mae'r dyluniad cyfredol, sy'n defnyddio'r seren a'r cilgant fel symbolau Islamaidd, yn dyddio o 1844. Rhwng 1920 a 1923, pan ddaeth Twrci yn weriniaeth dan Atatürk, diddymwyd symbolau'r Swltan a daeth y faner yn brif symbol y wlad. Mabwysiadwyd yn swyddogol ar 5 Mehefin, 1936.
Baneri cilgant tebyg
-
Baner Ymerodraeth yr Otomaniaid (1844–1923)
Ffynonellau
- Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)
|