Bar llorweddol
Mae'r bar llorweddol[1] neu bar sefydlog (efallai, i osgoi dryswch gyda bar mewn graff, bar sengl neu bar gymnasteg) yn un o chwe chyfarpar a champ gymnasteg ar gyfer y dynion - dydy menywod ddim y cystadlu ar y gamp. Mae'n debyg o ran golwg a thechneg i'r barrau cyfochrog a'r barrau anghyflin. Mae'n gamp a gystadlir arni y y Gemau Olympaidd a thwrnameintiau gymnasteg lleol, cenedlaethol a rhyngwladol eraill.
Gwneuthuriad
Mae'r bar wedi ei wneud o fetel ac yn cael ei ddal rhwng dwy bostyn a wnaed eu hunain yn sefydlog trwy ddefnyddio ceblau tensiwn. Fodd bynnag, mae'r bar yn cynnig hyblygrwydd mecanyddol penodol. Er mwyn darlunio nifer o bosibiliadau'r grefft, mae ymarfer modern wedi'i seilio ar far yn gyflwyniad deinamig o elfennau elc, cylchdroadau a rhannau hedfan di-stop a berfformir ger ac ymhell o'r bar mewn gwahanol ddaliadau. Mae'r bar sefydlog yn gofyn am ddefnyddio deiliaid potiau.
Dimensiynau
Gosodir nodweddion y ddyfais hon gan y Ffederasiwn Gymnasteg Rhyngwladol (FGI):
- Uchder: 270 cm (gan gynnwys 20 cm o fat derbyn)
- Hyd: 240 cm
- Diamedr y bar: 2.8 cm
Elfennau
Ceir sawl elfen sy'n rhan o rwtîn y gymnast wrth gystadlu.[2]
Ceir hefyd gwahanol enwau ar y gwahanol ffyrdd sydd o gydio, grip yn Saesneg, yn y bar er mwyn cyflawni'r campau.
Hanes
Defnyddiwyd y bar sefydlog gan acrobatiaid Gwlad Groeg a Rhufain hynafol a hefyd yn ystod yr Oesoedd Canol.[3] Fe’i cyflwynwyd yn y gampfa gan Johann Christoph Friedrich GutsMuths yn ei lyfr 1793 Gymnastik für die Jugend, a barhaodd ac ehangodd Friedrich Ludwig Jahn ym 1811.[3][4]
Gweler hefyd
Dolenni allanol
- Disgrifiad o'r dechneg y Bar Llorweddol
- Elfennau'r Bar Llorweddol
- Llawlyfr Termau Chwraeon Ysgol Penweddig Archifwyd 2021-05-13 yn y Peiriant Wayback
Cyfeiriadau
- ↑ http://termau.cymru/#horizontal%20bar
- ↑ https://www.youtube.com/watch?v=y4J8aoQdxX4,
- ↑ 3.0 3.1 Butterworth, Horace (1902), The Horizontal Bar, http://books.google.com/books?id=O95AAQAAIAAJ&pg=PA5#v=onepage&q&f=false
- ↑ Nodyn:Cita libro