Bas dwbl
Enghraifft o'r canlynol | math o offeryn cerdd, bass |
---|---|
Math | necked box lutes played with a bow |
Rhan o | violin family |
Dechrau/Sefydlu | 1400s, 1800s |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Y bas dwbl ydy'r mwyaf o'r offerynnau llinynnol. Mae'r tannau wedi'u tiwnio i E,A,D a G, o'r gwaelod fel arfer. Sgrifennir cerddoriaeth ar erwydden y bas, ond cenir y nodau wythfed yn is. Ar offerynnau cynnar roedd tri tant yn gyffredin, ond heddiw mae rhai offerynnau â phum tant er mwyn chwarae nodau is na'r arfer mewn rhai cyfansoddiadau. Hefyd, ceir ymestyniad i'r tant gwaelod tua'r sgrôl at yr un pwrpas. Er bod yr offeryn yn cael ei ystyried fel aelod o deulu'r feiolin, mae'n dwyn siâp y feiol yn aml, a hefyd mae dewis o fwâu - sef Almaenig neu Ffrengig.
Cenir y bas dwbl mewn amrediad eang o wahanol gerddoriaeth, gan gynnwys enghreifftiau clasurol, jas a gwerin. Mewn canu pop, defnyddir y bas trydanol, ond mae sain pur acwstig yn cael ei ffafrio mewn jas (jazz) ac felly mae'r bas dwbl wedi cadw ei le yn gadarn ar bwys offerynnau acwstig eraill.