Brian Aldiss
Brian Aldiss | |
---|---|
Ffugenw | Jael Cracken |
Ganwyd | Brian Wilson Aldiss 18 Awst 1925 Dereham |
Bu farw | 19 Awst 2017 Rhydychen |
Man preswyl | Dereham |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | awdur ffuglen wyddonol, nofelydd, beirniad llenyddol, ysgrifennwr, sgriptiwr, arlunydd, person milwrol, llyfrwerthwr, prif olygydd, newyddiadurwr |
Swydd | beirniad Gwobr Booker |
Adnabyddus am | Non-Stop, Hothouse |
Arddull | gwyddonias |
Prif ddylanwad | Karel Čapek, Olaf Stapledon, H. G. Wells, Mary Shelley, Roy Campbell |
Gwobr/au | OBE, Prif Wobr am Ddychymyg, Gwobr Hugo am y Stori Fer Orau, Gwobr Nebula am y Nofel Fer Orau, Pilgrim Award, Gwobr Hugo am y Gwaith Perthnasol Gorau, Gwobr Goffa John W. Campbell am y Nofel Ffuglen Wyddonol Orau, Gwobr Tähtivaeltaja, Gwobr Damon Knight, Uwch Feistr, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol, Hall of Fame Ffantasi a llenyddiaeth Wyddonias, Gwobr y BSFA am y Nofel Orau, Gwobr Ditmar |
Gwefan | http://www.brianaldiss.co.uk/ |
Awdur a golygydd Seisnig oedd Brian Wilson Aldiss, OBE (/ˈɔːldɪs/; 18 Awst 1925 – 19 Awst 2017[1][2]), a oedd yn fwyaf adnabyddus am nofelau a straeon byrion gwyddonias. Defnyddiodd yr enw Brian W. Aldiss neu Brian Aldiss, heblaw am ambell ffugenw yn ystod canol y 1960au.
Cafodd ei ddylanwadu yn fawr gan yr arloeswr gwyddonias H. G. Wells, a roedd Aldiss yn is-lywydd Cymdeithas ryngwladol H. G. Wells. Roedd yn gyd-lywydd (gyda Harry Harrison) Grŵp Gwyddonias Birmingham. Enwyd Aldiss yn Grand Master gan Awduron Gwyddonias America yn 2000, a fe'i sefydlwyd yn Oriel Enwogion Gwyddonias yn 2004. Derbyniodd ddau Wobr Hugo, un Gwobr Nebula a un Gwobr Goffa John W. Campbell.[3] Ysgrifennodd y stori fer "Super-Toys Last All Summer Long" (1969), oedd yn sylfaen i ffilm Stephen Spielberg A.I. Artificial Intelligence a ddatblygwyd gan Stanley Kubrick. Roedd Aldiss yn gysylltiedig a'r Don Newydd Prydeinig o wyddonias.[4]
Bywyd personol
Yn 1938, priododd Aldiss gyda Olive Fortescue, ysgrifennydd i berchennog gwerthwyr llyfrau Sanders yn Rhydychen, lle roedd wedi gweithio ers 1947.[5] Roedd ganddo ddau blentyn o'i briodas gyntaf, Clive yn 1955 a Caroline Wendy yn 1957, ond fe "methodd" y briodas yn 1959 a'i ddiddymu yn 1965.[5][6]
Yn 1965, priododd ei ail wraig, Margaret Manson, menyw Albanaidd, ysgrifennydd i olygydd yr Oxford Mail, pan oedd yn 40 a hithau yn 31.[5] Roeddent yn byw yn Rhydychen, a cafodd y cwpl ddau blentyn, Tim a Charlotte .[5][6] Bu farw Margaret yn 1997.[5]
Cyfeiriadau
- ↑ Aldiss, Brian (21 August 2017). "It is with great sadness we announce the death of our beloved father & grandfather. Brian died peacefully at home on his 92nd birthday ^TA". twitter.com. Cyrchwyd 21 Awst 2017.
- ↑ "Announcement of the dead of Brian Aldiss O.B.E." Curtis Brown. Cyrchwyd 21 Awst 2017.
- ↑ "Aldiss, Brian W." Archifwyd 5 August 2011 yn y Peiriant Wayback. The Locus Index to SF Awards: Index of Literary Nominees. Locus Publications. Retrieved 2013-04-02.
- ↑ Scholes, Robert; Rabkin, Eric S. (1977). "Bibliography I: History and Criticism of Science Fiction". Science Fiction: History, Science, Vision. London: Oxford University Press.
- ↑ 5.0 5.1 5.2 5.3 5.4 Brown, Andrew (15 Mehefin 2001). "Master of the universes: Brian Aldiss". Cyrchwyd 21 Awst 2017 – drwy The Guardian.
- ↑ 6.0 6.1 "HOW WE MET: BRIAN ALDISS AND ANTHONY STORR". independent.co.uk. 22 Hydref 1995. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-08-21. Cyrchwyd 21 Awst 2017.
Dolenni allanol
- Gwefan swyddogol
- Brian Aldiss Archifwyd 2013-01-23 yn y Peiriant Wayback. yn y British Council: Llenyddiaeth
- Ffuglen arlein Brian Aldiss Archifwyd 2005-12-15 yn y Peiriant Wayback. yn Free Speculative Fiction Online
- Casgliad Brian Aldiss yn Mhrifysgol De Fflorida