Brouvelieures

Brouvelieures
Mathcymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth421 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Arwynebedd7.36 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr347 metr, 545 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaMortagne, Vervezelle, Bruyères, Domfaing, Fremifontaine, Grandvillers, Bois-de-Champ Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau48.2372°N 6.7322°E Edit this on Wikidata
Cod post88600 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Maer Brouvelieures Edit this on Wikidata

Mae Brouvelieures yn gymuned yn Département Vosges yn Rhanbarth Dwyrain Mawr, Ffrainc. Mae'r gymuned wedi'i leoli ar lan yr afon Mortagne, mae’n 16 km oddi wrth Rambervillers, 22 km o Saint-Dié-des-Vosges a 28 km o Épinal. Y trefi agosaf (llai na 5 km) yw Domfaing, Vervezelle, Bruyères, Champ-le-Duc, Mortagne a Belmont-sur-Buttant.

O herwydd dewrder ei thrigolion yn ystod yr Ail Ryfel Byd, yn enwedig yn ystod Brwydr Bruyères, dyfarnwyd Croix de Guerre 39-45 i’r gymuned ar 11 Tachwedd, 1948.


Poblogaeth

Safleoedd a Henebion

  • Eglwys y Groes Sanctaidd, adeiladwyd rhwng 1786 a 1790. Mae'n gartref i allor uchel wedi'i cherfio allan o dderw yn y 18 ganrif a chofrestrwyd fel heneb o bwys cenedlaethol ym 1965)[1]. Mae hefyd yn cynnwys nifer o baentiadau megis Addoliad y Bugeiliaid o 1628, sydd wedi ei briodoli i Claude Bassot[2], peintiad mawr o'r 17g, sy'n cynrychioli Addoliad y Doethion a phaentiad yn darlunio Crist a oedd yn rodd i’r eglwys gan Napoleon III.
  • Croes hen fynwent Brouvelieures, croes haearn o’r 18g yn arddull Louis XV, wedi ei ddynodi’n heneb ers 1937[3]
  • Château de la Forge a gwaith metel o'r enw Forge de la Mortagne a adeiladwyd tua 1880.


Gweler hefyd

Cymunedau Vosges

Cyfeiriadau

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:


Eginyn erthygl sydd uchod am Ffrainc. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.