Camargue
![]() | |
Math | natural region of France, parçan of Occitania, gwlyptir ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol | Camargue ![]() |
Sir | Bouches-du-Rhône ![]() |
Gwlad | ![]() |
Gerllaw | Afon Rhône ![]() |
Cyfesurynnau | 43.5333°N 4.5°E ![]() |
Statws treftadaeth | Tentative World Heritage Site ![]() |
Manylion | |

Ardal yn ne Ffrainc o gwmpas aber afon Rhône, yn département Bouches-du-Rhône, yw'r Camargue. Wrth ddynesu at y Môr Canoldir, mae afon Rhône yn ymrannu yn ddwy ran, y Grand-Rhône a'r Petit-Rhône. Rhennir y Camargue, sydd ag arwynebedd o 145.300ha i gyd, yn dri rhan:
- y Petite Camargue, i'r gorllewin o'r Petit-Rhône,
- y Grande Camargue, rhwng y Petit-Rhône a'r Grand-Rhône,
- y Plan du Bourg, l'r dwyrain o'r Grand-Rhône.
Yng ngogledd yr ardal ceir tiroedd amaethyddol, tra yn y de mae corsydd hallt. Mae'r ardal o bwysigrwydd mawr ar gyfer planhigion ac adar, a chrewyd y Parc naturel régional de Camargue yn 1970. Ymhlith ei nodweddion enwocaf, mae'r ceffylau gwynion.
Bu'r naturiaethwr o Gymro Peter Hope Jones yn warden gwirfoddol yma yn 1958.