Cap-Rouge
![]() | |
Math | cymdogaeth ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl | sgist, pentir ![]() |
Poblogaeth | 13,700 ![]() |
Cylchfa amser | Cylchfa Amser y Dwyrain ![]() |
Gefeilldref/i | Langewiesen ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sainte-Foy–Sillery–Cap-Rouge ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 6.81 km² ![]() |
Gerllaw | Afon St Lawrence, Rivière du Cap Rouge ![]() |
Yn ffinio gyda | Sainte-Foy, Sillery, Aéroport, Saint-Augustin-de-Desmaures ![]() |
Cyfesurynnau | 46.7583°N 71.3542°W ![]() |
Tref yng nghanol Québec, Canada yw Cap-Rouge, ar lannau gogleddol Afon St Lawrence. Yn wreiddiol, roedd yn dref annibynnol, ond ymgorfforwyd o fewn dinas Québec yn 2002. Erbyn heddiw, mae'n rhan o fwrdeistref Laurentien. Poblogaeth Cap-Rouge yn 2002 oedd 14,163 o drigolion.
Hanes
Ceisiodd Jacques Cartier sefydlu'r dreflan barhaol Ewropeaidd gyntaf yng ngogledd America ar safle presennol Cap-Rouge ym 1541. Goroesodd treflan Charlesbourg-Royal am flwyddyn o 1541 hyd yr haf o 1542, dan ddioddef gaeaf caled o achos tywydd llym ac ymosodiadau gan yr Iroquoiaid brodorol yn Stadacona. Yn2006 darganfuwyd olion y dreflan gan archaeolegwyr Canadaidd, gan gynnwys crochenwaith faïence Eidalaidd o'r cyfnod, sy'n cadarnhau presenoldeb Ewropeaid ar y safle.
Dolenni allanol
Adroddiad am ddarganfyddiadau archaeolegol yn Cap-Rouge Archifwyd 2006-10-10 yn y Peiriant Wayback (Saesneg)