Castell Bryn Gwyn
Math | safle archaeolegol, castell ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynys Môn |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.178358°N 4.297865°W ![]() |
Rheolir gan | Cadw ![]() |
Perchnogaeth | Cadw ![]() |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru ![]() |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | AN015 ![]() |
Safle amddiffynnol aml-gyfnod gerllaw Brynsiencyn ar Ynys Môn yw Castell Bryn Gwyn. Mae wedi ei ffurfio o glawdd pridd 10 medr o led a 2 fedr o uchder, ar ffurf cylch, 17 medr ar draws. Yn wreiddiol, roedd ffos yn ei amgylchynu.
Bu cloddio archaeolegol yma yn 1959-60, a dangoswyd fod y safle wedi ei defnyddio yn ystod sawl cyfnod. Cafwyd hyd i grochenwaith o'r cyfnod Neolithig. Yn ddiweddarach, ail-adeiladwyd y clawdd a chloddiwyd ffos newydd, efallai ar gyfer fferm gydag amddiffynfeydd. Cafwyd hyd i grochenwaith o ddiwedd 1g OC, ac ymddengys i'r safle gael ei defnyddio mewn cyfnod diweddarach hefyd.
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8e/Castell_Bryn-gwyn_enclosure%2C_Anglesey.jpg/220px-Castell_Bryn-gwyn_enclosure%2C_Anglesey.jpg)
Cred rhai ysgolheigion mai'r safle yma oedd "Castell Bon y Dom", y dywedir i Olaf Sigtryggsson, taid Gruffudd ap Cynan ei adeiladu yn nechrau'r 11g. Fodd bynnag, nid oes tystiolaeth bendant i gefnogi hyn.
Gerllaw ceir Meini hirion Bryn Gwyn.
Llyfryddiaeth
Frances Lynch, Gwynedd, A Guide to Ancient and Historic Wales (Llundain: HMSO, 1995)