Catherine Fookes
Catherine Fookes | |
---|---|
Ganwyd | 1970 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o 59ain Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Lafur |
Gwefan | https://www.catherinefookes.com/ |
Gwleidydd y Blaid Lafur Brydeinig yw Catherine Ann Fookes (ganwyd Hydref 1970)[1] a etholwyd yn Aelod Seneddol (AS) dros etholaeth Gymreig Sir Fynwy, yn etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig a gynhaliwyd ar 4 Gorffennaf 2024 .
Cyn cael ei hethol, bu Fookes yn brif weithredwr Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru ac yn gadeirydd y felin drafod Gymreig, Fabians Cymru.[2]
Mae hi wedi byw yn Sir Fynwy dros ddau ddegawd.[3] Roedd hi'n gynghorydd Sir Fynwy dros ward y Dref yn Nhrefynwy, ac wedi rhannu'r portffolio cydraddoldeb ac ymgysylltu. Ymddiswyddodd ei swyddi yn 2023 ar ôl cael ei dewis fel ymgeisydd seneddol Llafur ar gyfer etholiad cyffredinol.[4]
Ym mis Gorffennaf 2024, etholwyd Fookes yn AS San Steffan dros Sir Fynwy, gan drechu cyn Ysgrifennydd Gwladol Cymru David T. C. Davies.[2] AS benywaidd cyntaf Sir Fynwy yw hi.[5]
Cyfeiriadau
- ↑ "Catherine Ann Fookes". gov.uk. Cyrchwyd 6 Gorffennaf 2024.
- ↑ 2.0 2.1 Owen, Twm (5 Gorffennaf 2024). "General election 2024: Labour win in Monmouthshire". South Wales Argus (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-07-05.
- ↑ "Pwy yw aelodau seneddol newydd Cymru?". BBC Cymru Fyw. Cyrchwyd 6 Gorffennaf 2024.
- ↑ Owen, Twm (17 Mai 2023). "Monmouthshire cabinet: Catherine Fookes and Tudor Thomas out". South Wales Argus (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-07-04.
- ↑ "Catherine Fookes ousts Tory David T C Davies in dramatic election victory". Monmouthshire Beacon (yn Saesneg). 5 Gorffennaf 2024. Cyrchwyd 6 Gorffennaf 2024.