Chirinkotan

Chirinkotan
Mathynys Edit this on Wikidata
PoblogaethEdit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+12:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolKuril Islands Edit this on Wikidata
SirSevero-Kurilsky District Edit this on Wikidata
GwladBaner Rwsia Rwsia
Arwynebedd6 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr742 metr Edit this on Wikidata
GerllawMôr Okhotsk Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau48.98°N 153.48°E Edit this on Wikidata

Mae Chirinkotan (Rwseg: Чиринкотан; Japanese 知林古丹島; Chirinkotan-tō) yn ynys folcanig lle nad oes neb yn byw arni, yng nghanol Ynysoedd Kuril ym Môr Okhotsk, yng ngogledd-ddwyreiniol y Môr Tawel. Mae ei henw'n deillio o'r iaith Ainŵaidd ar gyfer "tirlithriad." Fe'i lleolir 3 km i'r gorllewin o Ekarma. 

Daeareg

Mae Chirinkotan ym mhen pellaf y gadwyn o losgfynyddoedd sy'n ymestyn dros tua 50 km i'r gorllewin o ganol ynysoedd Kuril. Mae rhan uchaf y llosgfynydd, ("Masaochi" yn yr iaith Ainŵaidd) yn 742m o uchder, ac mae'n llosgfynydd byw o hyd – bu iddo echdori yn 1760, 1884, 1900, 1979, 1986, 2004, a 2013. Nid yw adroddiadau o echdoriad 1955 wedi eu cadarnhau. Clogwyni serth yw glannau'r ynys felly mae cyrraedd ar gychod bach bron yn amhosibl. 

Hanes 

Nid oes yr un unigolyn yn byw yn Chirinkotan yn barhaol. Ar ôl yr Ail Rhyfel Byd, daeth yr ynys dan ofal yr Undeb Sofietaidd, a chaiff ei rheoli bellach fel rhan o Ffederasiwn Rwsia

Cyfeiriadau

Darllen pellach 

  • Gorshkov, G. S. Volcanism and the Upper Mantle Investigations in the Kurile Island Arc. Monographs in geoscience. New York: Plenum Press, 1970.
  • Krasheninnikov, Stepan Petrovich, and James Greive. The History of Kamtschatka and the Kurilski Islands, with the Countries Adjacent. Chicago: Quadrangle Books, 1963.
  • Rees, David. The Soviet Seizure of the Kuriles. New York: Praeger, 1985.
  • Takahashi, Hideki, and Masahiro Ōhara. Biodiversity and Biogeography of the Kuril Islands and Sakhalin. Bulletin of the Hokkaido University Museum, no. 2-. Sapporo, Japan: Hokkaido University Museum, 2004.