Chrysler
Math | cynhyrchydd cerbydau |
---|---|
Math o fusnes | cwmni cyfyngedig (UDA) |
Diwydiant | diwydiant ceir |
Sefydlwyd | 6 Mehefin 1925 |
Sefydlydd | Walter Chrysler |
Pencadlys | Auburn Hills, Michigan |
Pobl allweddol | (Prif Weithredwr) |
Cynnyrch | lori |
Nifer a gyflogir | 90,000 (2019) |
Lle ffurfio | Auburn Hills, Michigan |
Gwefan | https://media.stellantisnorthamerica.com/homepage.do |
Gwneuthurwr ceir Americanaidd yw FCA US LLC sydd â'i bencadlys yn Auburn Hills, Michigan, ac a berchenogir yn bennaf gan gwmni Fiat. Mae Chrysler yn un o'r "Tri Mawr" o wneuthurwyr ceir Americanaidd. Mae'n gwerthu cerbydau o gwmpas y byd dan ei brif frand Chrysler, yn ogystal â'r brandiau Dodge, Jeep, a Ram Trucks; mae hefyd yn cynhyrchu cerbydau a werthir dan frand Fiat yng Ngogledd America. Mae prif adrannau eraill Chrysler yn cynnwys Mopar, sef ei adran sy'n cynhyrchu rhannau ac ategolion ceir, a SRT, ei adran ceir perfformiad. Yn 2011, roedd Chrysler Group (heb gynnwys Fiat) yn y gwneuthurwr ceir deuddegfed fwyaf yn y byd yn nhermau cynhyrchu.[1]
Sefydlwyd The Chrysler Corporation gan Walter Chrysler ym 1925,[2] o olion y Maxwell Motor Company. Ehangodd Chrysler ym 1928 gan brynu'r cwmni tryciau Fargo a Dodge Brothers Company a dechreuodd gwerthu cerbydau dan y brandiau hynny; yn yr un flwyddyn sefydlodd y brandiau Plymouth a DeSoto. Gostyngodd gwerthiannau Chrysler yn y 1970au o ganlyniad i nifer o ffactorau gan gynnwys argyfwng olew 1973, ac erbyn diwedd y ddegawd honno roedd Chrysler bron â methdalu. Dan y Prif Weithredwr Lee Iacocca dychwelodd y cwmni at wneud elw digonol yn y 1980au. Prynodd Chrysler yr American Motors Corporation ym 1987, a gynhyrchodd y brand llwyddiannus Jeep.
Cyfunodd Chrysler â'r gwneuthurwr ceir Almaenig Daimler-Benz AG ym 1998 gan ffurfio DaimlerChrysler; yr oedd nifer o fuddsoddwyr yn erbyn y cyfuno a gwerthwyd Chrysler i Cerberus Capital Management a chafodd ei ail-enwi'n Chrysler LLC yn 2007. Cafodd Chrysler a chwmnïu eraill y Tri Mawr eu taro'n drawm gan argyfwng y diwydiant ceir yn 2008–10 a derbynnodd Chrysler a General Motors biliynau o ddoleri mewn benthyciadau gan lywodraeth yr Unol Daleithiau yn 2008–9 i'w hatal rhag cau i lawr. Wynebodd Chrysler fethdaliad ar 30 Ebrill 2009 ond ar 10 Mehefin 2009 cytunwyd i'r cwmni gael ei berchen gan Fiat, cronfa pensiwn yr United Auto Workers, a llywodraethau'r Unol Daleithiau a Chanada. Ers hynny mae Fiat wedi prynu cyfranddaliadau'r perchenogion eraill yn raddol a bellach Fiat sydd gan berchenogaeth fwyafrifol y cwmni.
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
- ↑ "World motor vehicle production OICA correspondents survey without double counts world ranking of manufacturers year 2011" (PDF).
- ↑ "Chrysler Reviews and History". JB car pages. Cyrchwyd September 22, 2008.
Dolenni allanol
- (Saesneg) Gwefan swyddogol