Chwys
Math o gyfrwng | dosbarth o endidau anatomegol |
---|---|
Math | ysgarthiad, secretiad, Ysgarthu, endid anatomegol arbennig |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
- Gweler hefyd chwys (gwahaniaethu).
Hylif di-liw cyfansoddedig o ddŵr gyda symiau bach o wrea ac halwynau (sodiwm clorid yn bennaf) sy'n nawsio trwy'r croendyllau o'r chwarrenau chwys yw chwys. Mae'n chwarae rhan bwysig yn y gwaith o reoli tymheredd y corff yn ogystal â chael gwared ar amhuryddion. Mae chwysu yn oeri'r corff a dyna pam fod pobl yn chwysu mwy pan fo'r tywydd yn boeth ond yn llai pan fo'r tywydd yn oer. Mae chwysu yn cynyddu hefyd pan fo rhywun yn teimlo'n sâl neu wedi cynhyrfu ei nerfau.