Coup d'état Myanmar (2021)

Coup d'état Myanmar
Enghraifft o:coup d'état Edit this on Wikidata
Dyddiad1 Chwefror 2021 Edit this on Wikidata
Dechreuwyd1 Chwefror 2021 Edit this on Wikidata
Olynwyd gan2021–2023 Myanmar protests Edit this on Wikidata
GwladwriaethMyanmar Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cipiodd fyddin Myanmar grym ar fore 1 Chwefror 2021, gan ddymchwel y llywodraeth a chynnal llywodraeth filwrol yn nwylo'r Tatmadaw. Cafodd arweinwyr sifil y wlad, Win Myint (Arlywydd) ac Aung San Suu Kyi (Cwnsler y Wladwriaeth), eu harestio a'u cadw yn y ddalfa. Cyhoeddodd y Tatmadaw flwyddyn o bwerau argyfwng, a datgan bod pŵer wedi'i freinio i Min Aung Hlaing, Cadlywydd y Gwasanaethau Amddiffyn. Cyhoeddodd fod canlyniadau etholiad cyffredinol Tachwedd 2020 yn annilys a nododd ei fwriad i gynnal etholiad newydd ar ddiwedd blwyddyn o stad o argyfwng.[1]

Cefndir

Enillodd yr NLD fuddugoliaeth esgubol yn etholiad cyffredinol 2020 Myanmar.

Mae Myanmar, a elwir hefyd yn Burma, wedi bod yn destun ansefydlogrwydd gwleidyddol ers iddi ddatgan annibyniaeth o Brydain ym 1948. Rhwng 1958 a 1960, ffurfiodd y fyddin lywodraeth dros dro ar gais U Nu, prif weinidog y wlad a etholwyd yn ddemocrataidd, er mwyn datrys gwrthdaro gwleidyddol.[2] Fe wnaeth y fyddin adfer llywodraeth sifil yn wirfoddol ar ôl cynnal etholiad cyffredinol ym 1960. Lai na dwy flynedd yn ddiweddarach, cipiodd y fyddin bŵer ym 1962, gan arwain at 26 mlynedd o reolaeth filwrol, dan arweinyddiaeth Ne Win.[3]

Ym 1988, cychwynnodd protestiadau ledled y wlad, o'r enw Gwrthryfel 8888. Sbardunwyd yr aflonyddwch sifil gan gamreoli economaidd, ac fe arweiniodd at ymddiswyddiad Ne Win.[4] Ym mis Medi 1988, ffurfiodd prif arweinwyr y fyddin Gyngor Adfer Cyfraith a Threfn y Wladwriaeth (SLORC), a gipiodd y pŵer wedyn.[4] Daeth Aung San Suu Kyi, merch sylfaenydd modern y wlad, Aung San, yn ymgyrchydd nodedig o blaid democratiaeth yn ystod y cyfnod hwn. Ym 1990, caniatäodd y fyddin etholiadau rhydd, gan dybio y byddai'r bobl yn cefnogi'r fyddin. Yn y pen draw, arweiniodd yr etholiadau at fuddugoliaeth ysgubol gan blaid Suu Kyi, y Gynghrair Genedlaethol dros Ddemocratiaeth. Fodd bynnag, gwrthododd y fyddin trosglwyddo grym, a chyfyngwyd Suu Kyi i'w thŷ.[5]

Arhosodd y fyddin mewn grym am 22 mlynedd arall tan 2011,[6] yn dilyn cynllun y fyddin tuag at ddemocratiaeth, pryd y cafodd Cyfansoddiad Myanmar 2008 ei ddrafftio. Rhwng 2011 a 2015, cychwynnodd trawsnewidiad democrataidd bregus, ac arweiniodd at etholiadau a gynhaliwyd yn 2015 at fuddugoliaeth i blaid Suu Kyi, y Gynghrair Genedlaethol dros Ddemocratiaeth.[3] Fodd bynnag, cadwodd y fyddin bŵer sylweddol, gan gynnwys yr hawl i benodi chwarter aelodau seneddol y wlad.[7]

Mae'r wlad yn destun trafodaeth ers 2016 o ganlyniad i hil-laddiad yn erbyn grŵp lleiafrifol y Rohingya. Fe feirniadwyd Aung San Suu Kyi yn hallt gan nifer o wledydd, sefydliadau a phobl adnabyddus am wneud dim i atal erledigaeth pobl Rohingya yn Nhalaith Rakhine, a gwrthod derbyn bod milwyr Myanmar wedi cyflawni sawl cyflafan.[8]

Cipiwyd grym yn 2021 yn dilyn yr etholiad cyffredinol ar 8 Tachwedd 2020, lle enillodd y Gynghrair Genedlaethol dros Ddemocratiaeth (NLD) 396 o'r 476 sedd yn y senedd, buddugoliaeth mwyafrifol hyd yn oed yn fwy nag yn etholiad 2015. Enillodd plaid ddirprwy’r fyddin, Plaid Undod a Datblygu’r Undeb, 33 sedd yn unig. Roedd y fyddin yn anghytuno â'r canlyniadau, gan honni bod y bleidlais yn dwyllodrus.[7]

Digwyddiadau

Yn gynnar ar fore 1 Chwefror, cipiwyd Suu Kyi ac arweinwyr eraill ei phlaid. Yna torrwyd y Rhyngrwyd a'r llinellau ffôn fel na allai pobl siarad ag eraill y tu mewn neu'r tu allan i'r wlad. Bob nos fe wnaeth y llywodraeth filwrol ddiffodd y rhyngrwyd.

Protestiadau

Miloedd o wrthdystwyr yn cymryd rhan mewn rali gwrth-filwrol yn Yangon.

Cynhaliwyd nifer o brotestiadau yn y wlad (ac yn rhyngwladol) gyda milwyr yn defnyddio trais i rwystro hawliau dynol pobl i brotestio.[9] Mae gan bobl ifanc le amlwg yn yr ymgyrch yn erbyn yr unbennaeth filwrol. Wrth i bobl gwrthod gweithio dan y drefn newydd, buodd yn rhaid i ysbytai gau, ac ar 14 Chwefror peidiodd system rheilffyrdd y wlad[10].

Ymateb rhyngwladol

Fe wnaeth nifer o wledydd condemnio'r cipio grym. Rhewodd llywodraeth yr Unol Daleithiau asedau llywodraeth Myanmar; beirniadodd Tsieina a Japan (sef y gwledydd mwyaf eu masnach â Myanmar) ond heb gymryd camau pendant; a nodwyd bod yr Undeb Ewropeaidd yn "ystyried sancsiynau".[10] Dywedodd Ysgrifennydd Tramor y Deyrnas Unedig, Dominic Raab, ei fod yn condemnio’r “pwerau argyfwng ym Myanmar ac arestio aelodau blaenllaw o’r Llywodraeth Sifil yn anghyfreithlon.” Ychwanegodd bod angen “parchu dymuniadau democrataidd pobl Myanmar.” [1] Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, Antonio Guterres, y byddai’r Cenhedloedd Unedig yn cydweithio gydag arweinwyr rhyngwladol “i roi digon o bwysau ar Myanmar er mwyn sicrhau bod y cipio grym yn methu.”[11] Ond methu bu hanes pleidlais i gondemnio'r cipio grym yn Nghyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig.[10]

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 "Llywodraeth Prydain yn beirniadu'r coup milwrol yn Myanmar". Golwg360. 2021-02-01. Cyrchwyd 2021-02-23.
  2. "On This Day | The Day Myanmar's Elected Prime Minister Handed Over Power". The Irrawaddy (yn Saesneg). 2020-09-26. Cyrchwyd 2021-02-23.
  3. 3.0 3.1 "Buddugoliaeth yn Burma i blaid newydd". Golwg360. 2015-11-13. Cyrchwyd 2021-02-23.
  4. 4.0 4.1 "How A Failed Uprising Set The Stage For Myanmar's Future". Time. Cyrchwyd 2021-02-23.
  5. "Burma: 20 Years After 1990 Elections, Democracy Still Denied". Human Rights Watch (yn Saesneg). 2010-05-26. Cyrchwyd 2021-02-23.
  6. "How Myanmar's Fragile Push for Democracy Collapsed in a Military Coup". Time. Cyrchwyd 2021-02-23.
  7. 7.0 7.1 Beech, Hannah (2021-01-31). "Myanmar's Leader, Daw Aung San Suu Kyi, Is Detained Amid Coup". The New York Times (yn Saesneg). ISSN 0362-4331. Cyrchwyd 2021-02-23.
  8. Beech, Hannah. "What Happened to Myanmar's Human-Rights Icon?". The New Yorker (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-02-23.
  9. "Protestiadau wrth i luoedd arfog Myanmar gymryd rheolaeth o'r wlad". Golwg360. 2021-02-10. Cyrchwyd 2021-02-23.
  10. 10.0 10.1 10.2 Chaumeau, Christine (2021-03). "La jeunese birmane défie la junte". Le Monde Diplomatique: 10.
  11. "Galw ar arweinwyr rhyngwladol i sicrhau bod y coup milwrol yn Myanmar yn methu". Golwg360. 2021-02-04. Cyrchwyd 2021-02-23.