Crocodeil

Crocodeilod
Amrediad amseryddol: Eosen – Diweddar, 55–0 Ma
Pg
Crocodeil Afon Nîl
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Reptilia
Urdd: Crocodilia
Teulu: Crocodylidae
Cuvier, 1807
Genera

Crocodylus
Osteolaemus

Distrubition of crocodiles

Crocodeil neu crocodil yw'r enw a ddefnyddir ar gyfer unrhyw rywogaeth o'r teulu Crocodylidae (a ddosberthir weithiau fel is-deulu'r Crocodylinae). Defnyddir y term hefyd ar gyfer pob aelod o'r Crocodilia.

Mae'r Crocodeilod yn ymlusgiaid sy'n byw mewn afonydd, llynnoedd ac weithiau aberoedd ar draws ardal eang o'r trofannau. Y mwyaf adnabyddus o'r rhywogaethau yr Crocodeil Afon Nîl, a geir ar hyd y rhan fwyaf o Affrica.

Mae rhai rhywogaethau o grocodeilod yn gallu byw lan i tua 100 blwydd oed, ond mae'r un henaf wedi bod 130 o oed.

Rhywogaethau

  • Crocodylidae
    • Mekosuchinae (diflanedig)
    • Crocodylinae
      • Genws Crocodylus
        • Crocodylus acutus, Crocodeil America
        • Crocodylus cataphractus, Crocodeil Trwynfain
        • Crocodylus intermedius, Crocodeil Orinoco
        • Crocodylus johnsoni, Crocodeil Dŵr Croyw
        • Crocodylus mindorensis, Crocodeil y Ffilipinau
        • Crocodylus moreletii, Crocodeil Morelet
        • Crocodylus niloticus, Crocodeil Afon Nîl
        • Crocodylus novaeguineae, Crocodeil Gini Newydd
        • Crocodylus palustris, Crocodeil India
        • Crocodylus porosus, Crocodeil Dŵr Hallt
        • Crocodylus rhombifer, Crocodeil Ciwba
        • Crocodylus siamensis, Crocodeil Siam
      • Genws Osteolaemus
        • Osteolaemus tetraspis, Crocodeil Bychan
      • Genws †Euthecodon
      • Genws †Rimasuchus
      • Genws †Asiatosuchus