Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru

Opera Cenedlaethol Cymru
Enghraifft o:cwmni theatr, cwmni opera Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1943 Edit this on Wikidata
LleoliadCaerdydd Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.wno.org.uk/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae Opera Cenedlaethol Cymru (WNO) (Saesneg: Welsh National Opera) yn gwmni teithiol opera a sefydlwyd yn 1943. Dechreuodd fel cwmni amatur ac wedyn fe ddatblygodd mewn i ensemble proffesiynol erbyn 1973. Yn ei dyddiau cynnar fe gafwyd tymor blynyddol yn para am wythnos yng Nghaerdydd, gan ehangu ei amserlen i ddod yn gwmni perfformio drwy'r flwyddyn, gyda chorws a cherddorfa gyflogedig. Mae bellach yn teithio Cymru, Gwledydd Prydain a gweddill y byd gryn dipyn.

Am ran fwyaf o'i fodolaeth, nid oedd gan WNO ganolfan parhaol yng Nghaerdydd, ond yn 2004 fe symudodd i Ganolfan Mileniwm Cymru, ym Mae Caerdydd a oedd newydd agor i'r cyhoedd ar y pryd. Mae'r cwmni yn teithio o gwmpas Prydain ac yn teithio'n rhyngwladol, gan roi fwy na 120 o berfformiadau yn flynyddol, gyda repertoireo 8 operâu gwahanol i gynulleidfaoedd o dros 150,000 o bobl. Mae mannau perfformio yn ogystal â Chaerdydd yn cynnwys Llandudno, Bryste, Birmingham, Lerpwl, Milton Keynes, Rhydychen, Plymouth a Southampton.

Mae cantorion sydd â hanes gyda'r cwmni yn cynnwys Geraint Evans, Robert Tear, Gwyneth Jones, Margaret Price, Bryn Terfel, a Rebecca Evans. Mae artistiaid gwadd o wledydd eraill yn cynnwys Joan Hammond, Tito Gobbi ac Elisabeth Söderström. Ymhlith yr arweinwyr sydd wedi arwain y cwmni yw Pierre Boulez, Charles Mackerras, Reginald Goodall a James Levine. Ers 2019, mae'r cwmni wedi'i arwain gan ei Gyfarwyddwr Cyffredinol, Aidan Lang.

Ers y 1970au mae'r cwmni'n perfformio'r operâu yn yr iaith wreiddiol gan gynnwys Eidaleg, Almaeneg, Ffrangeg, Rwseg a Tsieceg. Darperir uwchdeitlau i'r gynulleidfa ddeall y stori.

Cefndir

Roedd canu corawl ar gynnydd yn ei boblogrwydd drwy gydol y 19eg ganrif yng Nghymru, gan ddiolch i eisteddfodau fel symbol o'i diwylliant.[1] Fe ffurfiwyd yr Opera Cenedlaethol Cymru gyntaf yn 1890. Fe ddywedodd papur newydd lleol ei fod yn eithriadol fod "a race of people to whom vocal music is a ruling passion should not generations ago have established a permanent national opera".[2] Fe berfformiodd y cwmni operâu gan y cyfansoddwr Cymreig Joseph Parry yng Nghaerdydd ac ar daith yng Nghymru. Roedd y cwmni wedi'i wneud ar y rhan fwyaf o berfformwyr amatur gyda rhai cantorion gwadd o Lundain, ac fe roddwyd dwsinau o berfformiadau o operâu Parry, Blodwen ac Arienwen, wedi'u cyfansoddi yn 1878 a 1890.[3] Roedd taith i America wedi'i gynllunio, ond fe fethodd y cwmni, a pherfformiwyd opera olaf Parry, The Maid of Cefn Ydfa, yng Nghaerdydd gan y Cwmni Opera Moody-Manners yn 1902.[4]

Fe redodd Cymdeithas Opera Fawreddog Caerdydd o 1924 i 1934.[5] Fe berfformiodd tymhorau blynyddol wythnos o hyd o operâu poblogaidd gan gynnwys Faust, Carmen ac Il trovatore, ac fel ei rhagflaenydd roedd yn gorff amatur, gyda phrif gantorion gwadd proffesiynol.[6] Gan eithrio cynyrchiadau y ddau gwmni hyn, roedd opera yng Nghymru yn y 19eg ganrif hwyr a'r 20fed ganrif gynnar wedi'i chyflwyno gan gwmnïau teithio o Loegr.[7]

Yn ystod yr 1930au, fe arweiniodd Idloes Owen côr amatur, y Lyrian Singers, yng Nghaerdydd. Yn Nhachwedd 1941, gyda John Morgan - cyn bariton Cwmni Opera Carl Rosa - a fiancée Morgan, Helena Hughes Brown, fe gytunodd Owen i ffurfio Cwmni Opera Fawreddog Lyrian, gyda Brown yn ysgrifennydd ac Owen yn arweinydd a rheolwr cyffredinol.[8] Fe gyhoeddant nhw eu cynllun a chynhaliwyd cyfarfod cyffredinol o gefnogwyr posib ym mis Rhagfyr 1943; yn y cyfarfod fe newidiwyd enw'r cwmni i 'Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru' ('Welsh National Opera Company'.)[9] Erbyn Ionawr 1944m roedd cynlluniau wedi'u datblygu fel y gall ymarferion y cmwni allu dechrau. Fe recriwtiodd Owen dyn busnes lleol, W. H. (Bill) Smith (1894-1968), a gytunodd i arwain fel y rheolwr busnes.[10] Roedd yn amheus i ddechrau, ond daeth Smith i fod yn brif ddylanwad ar y cwmni, gan ennill cronfeydd i'r cwmni, ac yn gadeirydd am ugain mlynedd o 1948.[11]

Blynyddoedd Cynnar

Fe berfformiodd y cwmni newydd ei ymddangosiad cyntaf yn Theatr Tywysog Cymru, Caerdydd ar 15 Ebrill 1946 gyda pherfformiad o Cavalleria rusticana a Pagliacci.[12] Roedd y gerddorfa yn un broffesiynol, gydag aelodau wedi dod o Gerddorfa Gymreig y BBC; roedd y cantorion yn rhai amatur, gan eithrio Tudor Davies, tenor a oedd yn enwog yn Covent Garden a Sadler's Wells, a ganodd rôl Canio yn Pagliacci. Yn ystod y tymor perfformio a oedd yn wythnos o hyd, fe lwyfannodd y cwmni Faust Gounod, gyda Davies yn y brif rôl.[13] Er roedd yn nesáu at ddiwedded ei yrfa, llwyddodd i ddenu lawer o bobl, a chwaraeodd y cwmni i gynulleidfaoedd llawn.[14] Er hyn, roedd cost cerddorfa broffesiynol a llog gwisgoedd a chefndiroedd yn gorbwyso enillion y swyddfa docynnau, felly roedd yn golled i'r cwmni. Roedd cyllid yn broblem barhaus i'r cwmni dros y degawdau nesaf.[15]

Er roedd Idloes Owen yn arweinydd ar gyfer y perfformiadau Cavalliera rusticana, ac arhosodd fel arweinydd cerddorol y cwmni tan 1952, roedd ei iechyd yn fregus ni arweiniodd unrhyw gynhyrchiad arall gan y cwmni.[16] Roedd Ivor John, meistr y corws, yn bennaeth ar dymor cyntaf Pagliacci a Faust.[17]

Ni lwyddodd i'r cwmni denu sylw'r sefydliad Prydeinig cerddorol yn ei dymhorau cyntaf, ond erbyn yr 1950au fe ddechreuodd papurau newydd Llundain i gymryd sylw. Fe adroddodd y Picture Post y roedd corws WNO o'r radd flaenaf ym Mhrydain.[18] Fe ganmolodd The Times y corws gan ddweud: "It has body, lightness, rhythmic precision, and, most welcome of all, unflagging and spontaneous freshness."[19] Erbyn y cyfnod hwn fe ehangodd y cwmni ei repertoire i gynnwys Carmen, La traviata, Madama Butterfly, The Tales of Hoffmann, The Bartered Bride a Die Fledermaus.[20] Fe ddywedodd The Times fod Smith, Owen a'u cydweithwyr yn creu hanes ar gyfer Cymru. Mae gefynnau piwritaniaeth, sydd wedi cadw'r wlad hon o ffurf gelf wedi'i gweddu'n berffaith i'w talentau cenedlaethol a hoffter (gan fod elfennau theatrig a gwisgo i fyny'r un mor naturiol â chanu) wedi'u torri am byth."[21]

Cydgyfnerthiad: 1950au a 60au

Yn 1952, fe symudodd y cwmni ei leoliad yng Nghaerdydd i'r Pafiliwn Gerddi Sophia (wedi'i hadeiladu ar gyfer Gŵyl Prydain) gyda Cherddorfa Drefol Bournemouth (BSO) yn ailosod yr ensemble diwethaf.[22] Roedd acwstig y pafiliwn yn un wael, heb pit cerddorfa;[23] ddwy flwyddyn yn ddiweddarach fe symudodd y cwmni eto, i'r Theatr Newydd lle arhosodd yng Nghaerdydd dros y pumdeg mlynedd nesaf.[24] Fe ddenodd y tymor yn 1952 ddiddordeb mawr gan fe berfformiodd y cwmni beth oedd ar y pryd yn beth anghyffredin: Nabucco Verdi. Fe ddatblygodd y cwmni enw da am lwyfannu operâu llai poblogaidd Verdi, gan gynnwys Les vêpres siciliennes yn yr un flwyddyn,[25] I Lombardi yn 1956,[26] a La battaglia di Legnano yn 1960.[27] Yn 1952 roedd Nabucco yn gynhyrchiad cyntaf WNO a dyluniwyd gwisgoedd a chefndiroedd (gan Patrick Robertson), yn hytrach na chael eu llogi.[28]

Yn 1953, fe lwyfannodd y cwmni ei waith cyntaf gan gyfansoddwr Cymreig: Menna gan Arwel Hughes.[29] Fe arweiniodd y cyfansoddwr, a daeth dau artist proffesiynol gwadd i chwarae'r prif rannau, Richard Lewis a Elsie Morison.[30] Yr un flwyddyn bu ymddangosiadau cyntaf WNO tu allan i Gymru, yn perfformio am wythnos yn Bournemouth ym mis Ebrill,[31] ac wythnos ym Manceinion ym mis Hydref, lle ffeindiodd The Manchester Guardian yr unawdwyr yn arbennig ond y corws yn siomedig yn Nabucco a Il trovatore.[32] Fe wnaeth adolygydd yn The Musical Times sylw ar anawsterau posib wrth ddod â chorws amatur ar gyfer perfformiadau a oedd yn mynd yn bellach na'r amrediad teithio arferol o'u swyddi dydd i ddydd.[33] Erbyn amser tymor cyntaf y cwmni yn Llundain - wythnos yn Sadler's Wells yn 1955 - beirniadwyd y corws i fod yn "fywiog a chyffrous" (The Musical Times), "dirgrynol" ac "emosiynol" (The Times) a "gorfoleddus" (The Manchester Guardian).[34] Roedd gan ail dymor WNO yn Sadler's Wells gynhyrchiadau yn cynnwys Nabucco, I Lombardi a Lohengrin yn haf 1956, gan ennill adolygiadau arbennig. Fe wnaeth Keeneth Loveland o'r Argus De Cymru ysgrifennu darn canmoliaethus: "Tonight, amongst working-class streets of the Angel, Islington, I was privileged to witness a body of men and women doing more for Wales than all your sounding harps...or tub thumping politicians".[35]

Erbyn canol yr 1950au fe gastiwyd cantorion proffesiynol fel prif gymeriadau yn y rhan helaeth o gynyrchiadau; roeddent yn cynnwys Walter Midgley yn Tosca a La bohème (1955),[36] Raimund Herincx yn Mefistofele (1957),[37] Heather Harper yn La traviata (1957),[38] a Joan Hammond yn Madama Butterfly (1958).[39] Awgrymwyd gwella'r elfennau proffesiynol y cwmni yn 1958, pan ddaeth cynnig o uniad rhwng WNO a'r Cwmni Carl Rosa, a oedd yn dioddef problemau cyllid. Ni wnaeth y cynnig gael ei dderbyn ac fe weithiodd WNO yn annibynnol tra gwnaeth y Carl Rosa fethu.[40]

Yn ystod yr 1960au fe ehangodd y cwmni ei ystod gerddorol. Fe berfformiwyd cynyrchiadau cyntaf Wagner, Lohengrin, a Mozart, Le nozze di figaro, yn 1962, wedi'u harwain gan Charles Groves. Llwyfannwyd opera Gymreig arall yn 1960, Serch yw'r Doctor gan Arwel Hughes.[41] Roedd y repertoire poblogaidd Eidaleg yn ganol i'r tymhorau blynyddol, wedi'i gyfarwyddo gan amlaf gan bennaeth cynhyrchiad John Moody.[42] Cafwyd sêr opera yn chwarae'r prif rannau, gan gynnwys John Shirely-Quirk, Gwyneth Jones, Thomas Allen, Josephine Barstow a Margaret Price, yr olaf ohonynt a wnaeth ei hymddangosiad gyntaf gyda'r cwmni yn 1962.[43] Cantorion sefydledig a wnaeth perfformio fel gwesteion gyda'r cwmni oedd yn cynnwys Geraint Evans, a wnaeth chwarae'r prif ran yn Don Pasquale yn 1966, ac Ian Wallace yn yr un rhan y flwyddyn yn olynol. Fe chwaraeodd Evans ran Leporello yn Don Giovanni yn 1966, a phrif ran Falstaff yn 1969.[44]

Fe wnaeth y newid o ensemble amatur i un broffesiynol barhau yn 1968, lle gaeth y corws ei ychwanegu gyda grŵp bach o gantorion proffesiynol; fe barhaodd y cymysg o gantorion proffesiynol ac amatur dros y pum mlynedd nesaf.[45] Erbyn diwedd yr 1960au roedd prif gwmni WNO yn nawr i weithredu'n barhaus drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys 8 o brif gantorion cyflogedig, 57 unawadwyr gwadd a chorws of 90 o berfformwyr amatur a 32 proffesiynol. Yn ogystal ag offerynwyr Bournemouth, fe weithiodd WNO'n agos gyda'r Royal Liverpool Philharmonic, City of Birmingham Symphony a cherddorfa Ulster ar gyfer lleoliadau gwahanol. Yn nhymor olaf y degawd, cafwyd 32 o berfformiadau yng Nghaerdydd a 61 o gwmpas y Derynas Unedig.[46] Yn ogystal â'r prif gwmni, fe wnaeth WNO gadw dau grŵp bach: un, gyda cherddorfa a wnaeth teithio i drefi Cymreig, a'r llall, yn cynnwys 12 o gantorion gyda phiano, a wnaeth teithio 79 trefi bach yng Nghymru a Lloegr.[47] Yn ystod y degawd fe wnaeth WNO greu cynllun hyfforddi ar gyfer cantorion ifanc.[48]

Cynfod Proffesiynol

Yn 1970 fe stopiodd WNO ddefnyddio cerddorfeydd Bournemouth a rhai eraill a dechreuodd cerddorfa ei hunain, wedi'i nabod yn gyntaf fel y Philharmonia Gymreig (the Welsh Philharmonia). Tair blwyddyn yn ddiweddarach fe waredwyd elfen amatur olaf y cwmni pan ddaeth y corws yn holl broffesiynol.[49] Roedd ehangu pellach ar repertoire yn ystod yr 1970au: yn 1971 fe lwyfannwyd perfformiadau cyntaf Prydain o Lulu Alban Berg, wedi'i gyfarwyddo gan Michael Geliot, a wnaeth olynu Moody yn 1969. Ym marn Malcolm Boyd yn The New Grove Dictionary of Opera, roedd Geliot yn "annarogan ac yn aml yn ddadleuol", a wnaeth siapio steil y cwmni yn yr 1970au.[50] Gan gydweithio gyda chyfarwyddwr cerdd James Lockhart, mae Geliot wedi'i ganmol gan The Times am gyflwyno cantorion newydd ifanc a "cyfarwyddo nifer o gynyrchiadau arloesol" cyn gadael yn 1978.[51] Fe wnaeth y beirniad Rodney Miles ysgrifennu yn 1975 am gynyrchiadau WNO:

"Rwyf byth wedi gweld, wel, braidd byth wedi gweld cynhyrchiad rhodresgar, ffôl neu ddifrifol, ac rwyf byth wedi gweld un dwl... rhinwedd fwyaf y cwmni yw mai ei gwaith wedi'i chyflwyno i wasanaeth cyfansoddwyr a chynulleidfaoedd, ac nid rhyw syniad haniaethol o 'fri' nag i'r balchder neu uchelgais unigolion, ac fel hwn maen' bron unigryw". [52]

Yn 1973 cafodd llwyfaniad Geliot o Billy Budd Benjamin Britten gyda Allen yn chwarae'r brif ran ei berfformio ar daith i'r Swistir, a ddwy flwyddyn yn olynol teithiodd i Barcelona.[53] Dychwelodd y cwmni i Lundain gan gymryd rhan yng Ngŵyl Opera Amoco yn y Dominion Theatre yn 1979, gan gyflwyno The Makropoulos Case, Die Zauberflöte, Ernanoi, Madama Butterfly a Tristan und Isolde i gynulleidfaoedd llawn.[54]

Cafodd hoffter y cwmni ar gyfer repertoire Eidaleg ei ail-weld yn ystod y degawd: roedd cynyrchiadau yn cynnwys llwyfaniad cyntaf WNO opera Richard Strauss, Elektra, yn 1978.[55] Perfformiwyd gwaith newydd Cymreig gan Alun Hoddinott The Beach of Falesá yn 1974.[56] Yn 1975, gyda chyd-gynhyrchiad gyda Scottish Opera, dechreuwyd ar gylch operâu Janáček, wedi'i gyfarwyddo gan David Pountney. Gan ddechrau gyda Jenůfa, barhaodd y cylch gyda The Makropoulos Case (1978), The Cunning Little Vixen (1980), Kátya Kabanová (1982), a From the House of the Dead (1982).[57]

Ymhlith yr artistiaid gwadd a wnaeth ymddangos gyda'r cwmni yn yr 1970au oedd y bariton Tito Gobbi, fel Falstaff (1972),[58] y cantorion soprano Elisabeth Söderström fel Emilia yn The Makropoulos Case (1978) ac Anne Evans fel Senta yn Der fliegende Holländer (1972),[59] a'r arweinwyr James Levine (Aida, 1970) a Reginald Goodall (Tristan und Isolde, 1979).[60]

Yn ystod yr 1970au hwyr fe wnaeth WNO ymuno gyda'r Cwmni Drama Cymru yng Nghaerdydd, gan ddod yn y Cwmni Opera a Drama Cenedlaethol Cymru. Fe ddioddefodd y cwmni drama beirniadaeth barhaus, ac fe dorodd y Cyngor Celfyddydau Cymru ei grant. Fe ddaeth partneriaeth WNO a'r cwmni drama i ddiwedd yn 1979 gyda'r caefa swyddogol.[61][62]

1980au[63]

Yn ystod yr 1980au fe ehagodd WNO. Cafodd Handel (Rodelinda, 1981) a Martinů (The Greek Passion, 1981) eu hychwanegu i repertoire y cwmni, ac yn 1983 llwyfannwyd Das Rheingold am berfformiad Der Ring des Nibelungen Wagner, gan ddilyn gan y tair opera eraill o'r cylch dros y ddwy flwyddyn. Cafodd Das Rheingold, Siegfried a Götterdämerung eu harweinio gan gyfarwyddwr cerdd y cwmni, Richard Armstrong; cafodd Die Walküre ei arweinio gan Goodall; disgirifwyd gan The Guardian fel arweinwr gorau Wagner a oedd yn fyw[64] - ond beirniadwyd y castio o'r cyclh am wendidau ymysg y prif gantorion, ac ni lwyddodd cynhyrchiad Göran Järvefelt i greu argraff dda ar y beriniaid.[65]

Ni wnaeth y prif weithredwr, Brian McMaster, ail-apwyntio prif gyfarwyddwr ar ôl i Geliot adael yn ystod yr 1980au, gan roedd well ganddo i weithio gyda cynhyrchwyr gwadd. Mae Boyd yn denu sylw i gynhyrchiad Eugene Onegin Andrei Serban (1980) ymysg y llwyddiannau, a Carmen Lucian Pintilie (1983) a Don Giovanni Ruth Berghaus (1984) fel cynyrchiadau a wnaeth derbyn adolygiadau cymysg. Roedd Charles Mackerras, arweinydd Don Giovanni, yn agored yn ei ddirmyg am gynhyrchiad Berghaus. Cafodd Fidelio Harry Kupfer (1981) ei gondemnio gan The Daily Telegraph fel "darn dadleuol Marcsaidd" a oedd yn gwneud "sbort gwlediyddol" am waith Beethoven.[66] Ystyriodd rai fod McMaster yn rhy dueddol i ffafrio cyfarwyddwyr radical y dwyrain: fe ddywedodd Jonathan Miller, cyfarwyddwr blaenllaw o Sais, nid oedd yn bwriadu cymryd dinasyddiaeth Bwlgariaid, er roedd yn "hanfodol cyn i Brain dalu unrhyw sylw".[67]

Fe gamodd Armstrong i ffwrdd yn 1986 ar ôl tair blynedd ar ddeg fel cyfarwyddwr cerddoriaeth; cafodd ei ddilyn gan Mackerras, a oedd gan berthynas gyda'r cwmni o dros trideg mlynedd. Ymysg nodweddion ei ddaliadaeth chwe mlynedd oedd cynnydd defnydd uwchdetilau ar gyfer perfformiadau nad oedd yn y Saesneg. Yn nyddiau cynnar y cwmni, perfformiwyd bob opera yn Saesneg, ond wrth i fwyfwy sêr rhyngwladol ymddangos gyda'r cwmni fel unawdwyr gwadd roedd angen i'r polisi iaith gael ei hailystyried: prin oedd cantorion blaenllaw byd opera yn fodlon ailddysgu ei rhannau yn Saesneg.[68] Fe geisiodd WNO troedfeddu rhwng ymarefrion y ddau brif gwmni opera yn Llundain: ar ôl yr 1960au roedd The Royal Opera yn rhoi perfformiadau yn yr iaith wreiddiol, ac roedd English National Opera yn aros yn ffyddlon i gynyrchiadau yn y Saesneg.[69] Amrywiodd ymarferion WNO ar ôl ei flylnyddoedd cynnar. Mae esiamplau o'r 1980au yn cynnwys Tristan und Isolde Wagner wedi'i ganu yn Almaeneg, a chylch y Ring yn Saesneg; cafwyd La forza del destino Verdi yn Saesneg, ac Otello yn Eidaleg.[70] Roedd Mackerras yn genogwr cyrf o berfformiad yn yr iaith wreiddiol, gydag uwchdeitlau: "Nid wyf yn gallu dychmygu cynnydd gwell i opera... Am anrheg! Mae fel petai Siegfried yn deall ehedydd y coed."[71]

1990au

Fe wnaeth McMaster ymddeol yn 1991, wedi arwain y cwmni i ennill statws rhyngwladol, gyda pherfformiadau yn La Scala, Milan; y Metropolitan Opera, Efrog Newydd; ac yn Tokyo.[72][73] Un o gymynroddion ei dymor yn WNO oedd cynhyrchiad Pelléas et Mélisande gan Claude Debussy yn 1992, wedi'i gyfarwyddo gan Peter Stein a'i arwain gan Pierre Boulez. Fe alwodd The New York Times WNO fel "un o ensemblau operatig orau yn Ewrop" gan nodi ar gyfer y noson agoriadol yng Nghaerdydd fe "denodd 80 o feirniaid o draws y Deyrnas Unedig a'r gyfandir ... y digwyddiad fwyaf mawreddog a disgwyliedig y tymor operatig Prydeinig".[74] Perfformiwyd y cynhyrchiad yn y Théâtre de Châtelet, Paris, rhai wythnosau yn ddiweddarach.[75]

Cafordd McMaster ei olynu fel prif weithredwr gan Matthew Epstein am dair mlynedd (1991-1994) a chafodd ei ddisgrifio yn astudiaeth 2006 gan Paul Atkinson fel "cyfnod llai hapus a llai llwyddiannus."[76] Cafodd Epstein ei ailosod gan Anthony Freud, a wnaeth gynhyrchu cynyrchiadau "cryf, gyda pharatoad cerddorol da, wedi'i llwyfannu mewn modd deallus a'i gastio'n dda yn gyson."[76] Cafodd Mackerras ei ddilyn gan Carlo Rizzi yn 1992, a oedd yn gyfarwyddwr cerddoriaeth y cwmni yn ystod dathliad euraidd WNO yn 1996. Dynodwyd y digwyddiad gyda chynhyrchiad newydd "Cav and Pag" a wnaeth lawnsio'r cwmni yn 1946; fe ddywedodd y BBC roedd WNO yn ymhlith "un o'r cwmniau opera parchedig y byd".[77] Yn The Observer, fe alwodd Michael Ratcliffe y cwmni yn "y fwyaf poblogaidd, poblyddol a chyfundrefnau llwyddiannus i fyth ddod o Gymru ... gyda'r ffyddlondeb a anwyldeb y cynulleidfaoedd yng Nghaerdydd ac ar draws Lloegr... Nid yw 'opera y bobl' yn chwedl... Fe ddigwyddod fan hyn."[78] Cafodd y dathliadau ei gysgodi gan gan ddymchwel cynlluniau ar gyfer cartref parhaol i'r cwmni, Tŷ Opera Bae Caerdydd.[78]

Yn ystod yr 1990au fe wnaeth WNO ei ymddangosiad gyntaf yn nhymor y Proms, gyda pherfformiad llawn Idomeneo gan Mozart, wedi arwain gan Mackerras yn 1991.[79] Chwaraeodd y cwmni tri thymor byr yn Nhŷ Opera Brenhinol, Covent Garden yng nghanol y 1990au, gan gynnwys Tristan und Isolde a La favorita yn 1993, The Yeomen of the Guard yn 1995, a The Rake's Progress, a'r dathliad jubilee o Cavalleria rusticana a Pagliacci yn 1996.[80]

21ain ganrif

Fe ddechreuodd y ganrif newydd mewn stâd llawn problemau. Roedd argyfwng cyllidol wedi arwain at diswyddiadau yn y gerddorfa a chwtogiad yn yr amserlen teithio; roedd yr operâu ceidwadol a dewisir ar gyfer tymor 2001-02 wedi'u comdemnio gan y wasg fel "rhaglen fwyaf dwl yn y cof diweddar"; ac roedd Rizzi am gael ei ddisoldi gan olynydd ifanc ac amhrofiadol, Tugan Sokhiev.[81] Fe lwyddodd Rizzi i ennill parch yn ystod ei ddaliadaeth naw mlynedd fel cyfarwyddwr cerddoriaeth; roedd teyrnasiad ei olynydd yn fyr ac yn un anhapus. Wedi dechrau'r swydd yn 2003, fe wnaeth Sokhiev ymddeol yn sydyn y flwyddyn yn olynol. Cytunodd Rizzi i aildrefnu ei amserlen, ac i gymeradwyo'r cyhoedd a beirniadol, dychwelodd i gyfarwyddo mewn amser ar gyfer symud y cwmni i'w lleoliad newydd parhaus yng Nghaerdydd.[82]

Ar ôl cwymp cynllun Tŷ Opera Bae Caerdydd, prosiect newydd, fe gaeth Canolfan Mileniwm Cymru ei gyfarch gyda llwyddiant llawer yn well. Dechreuodd waith ar y ganolfan celfyddydau amlbwrpas yn lleoliad Bae Caerdydd, gan gynnwys theatr 1,900 sedd, gan ddod yn leoliad arhosol WNO o 2004 ymlaen, gyda llefydd ymarfer a swyddi yn yr adeilad.[83]

Yn negawd cyntaf y ganrif, cafwyd dros 120 o berfformiadau'r flwyddyn, gyda repertoire 8 o operâu gwahanol. Fe lwyddodd y cwmni denu dros 150,000 o bobl i'w cynyrchiadau yn flynyddol, yn ymweld â deg lleoliad gwahanol, tri ohonynt yng Nghymru a saith yn Lloegr. Yn ystod y cyfnod hwn beirniadwyd y cwmni am ei ddiffyg Cymreictod. Fe ddywedodd gwleidydd lleol, Adam Price, y dylai WNO gael cyfarwyddwr cerddorol Cymreig; fe ddywedodd y cyfansoddwr Cymreig Alun Hoddinott yn 2004, "Mae WNO wedi llwyfannu dim ond tua phedwar neu bump o operâu Cymreig dros ugain mlynedd...Mae fel petai ganddynt duedd gwrth-Gymreig. Rwy'n drist nad ydynt yn gwneud unrhyw beth ar gyfer cyfansoddwyr Cymreig, yn enwedig rhai ifanc." Fe ddaeth safbwynt mwy positif o'r Alban lle cafwyd clod gan bapurau newyddion The Scotsman a The Herald am ymweliad y cwmni yn 2005, gan wrthgyferbynnu blodeuo byd opera yng Nghymru gydag esgeulustod gwleidyddwyr yn yr Alban a'r dirywiad opera Albanaidd. Yn 2010 fe gomisiynodd WNO Gair ar Gnawd ('Word on Felsh'), gan Pwyll ap Siôn a Menna Elfyn, gyda geiriau yn y Gymraeg, wedi'i ddisgrifio fel "stori gyfoes am Gymru heddiw ... wedi'i hysbrydoli gan gyfieithiad y Beibl".

O 2006 i 2011 John Fisher oedd cyfarwyddwr artistig y WNO. Fe wnaeth ei dymor gorgyffwrdd gyda'r cyfarwyddwr cerddoriaeth o 2009 i 2016, Lothar Koenigs. Uchafbwynt o'r cyfnod hwn oedd cynhyrchiad 2010 Die Meistersinger, wedi'i gynhyrchu gan Richard Jones, gan gynnwys Bryn Terfel fel Hans Sachs. Fe dderbyniodd y cynhyrchiad beirniadaeth wych gan feirniaid.

Yn 2011 cafodd David Pountney ei apwynto fel olynydd i Fisher fel cyfarwyddwr artistig. Gweithiodd gyda'r cwmni ers yr 1970au, gan gynnwys The Flying Dutchman yn 2006 gyda Terfel a oedd wedi lleoli yn y gofod. Yn 2013 rhaglenodd triawd o operâu wedi'u lleoli yn Lloegr y Tuduriaid; Anna Bolena Donizetti, Maria Stuarda a Roberto Deverux, gyda thriawd arall y flwyddyn yn olynol ar thema menywod syrthiedig - Manon Lescaut Puccini, Boulevard Solitude Henze a La traviata Verdi. Ar gyfer 2016 bu triawd arall ar thema Figaro, wedi'i wneud o Le nozze di Figaro Mozart, Il barbiere di Siviglia Rossini, a gwaith newydd, Figaro Gets a Divorce gan Elena Langer gyda libreto gan Pountney.

Ym mis Medi 2015 apwyntiodd WNO Tomáš Hanus fel ei gyfarwyddwr cerddoriaeth nesaf, gan ddechrau ar gyfer tymor 2016-17. Ar yr un pryd cafodd Carlo Rizzi ei enwi fel arweinydd llawryfog

Recordiadau

Er i'r corws a cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru wedi ymddangos ar nifer o recordiadau masnachol, gan gynnwys unawdwyr WNO, dim ond rhai recordiadau sydd o gynyrchiadau y cwmni, boyd yn recordiad sain neu recordiad fideo. Ymysg rhain yw Tristan und Isolde wedi'i arwain gan Goodall (1981),[84] Pelléas et Mélisande wedi'i arwain gan Boulez (1992),[85] The Yeomen of the Guard wedi'i arwain gan Mackerras (1995),[86] The Doctor of Myddfai wedi'i arwain gan Armstrong (1998), [87] ac Ariodante wed'i awain gan Ivor Bolton a chyfarwyddo gan David Alden (1999).[88] Fe recordiodd y BBC fideo o gast y WNO yn Katya Kabanova, wedi'i arwain gan Armstrong yn 1982.[89]

Mae corws a cherddorfa y WNO wedi gweithio am recordiadau opera heb gyswllt i gynyrchiadau'r cwmni, gan gynnwys Hamlet (1983), Norma (1984), Anna Bolena (1987), Ernani (1987) ac Adriana Lecouvreur (1988) wedi'i arwain gan Richard Bonynge,[90] Faust (1992) a Katya Kabanova (1994) gan Rizzi; a Gloriana (1993), Eugene Onegin (1994) a Jenůfa (2004) wedi'i arwain gan Mackerras.[91] Ar gyfer dathliad euraidd WNO yn 1996, fe gasglodd Decca rhai o'i recordiadau stiwdio ar gyfer CD dathliadol gyda chyraniadau gan unawdwyr gan gynnwys Joan Sutherland, Luciano Pavarotti, Montserrat Caballé a Thomas Hampson. Mae cerddorfa WNO wedi gwneud recordiadau stiwdio gan Elgar, Delius, Coleridge-Taylor a George Lloyd, a nifer of ganeuon traddodiadol Cymreig a cherddoriaeth traws (crossover music).[92] [93]

Cyfarwyddwyr Cerddoriaeth

  • Idloes Owen (1943-52)
  • Leo Quayle (1952-53)
  • Frederick Behrend (1953-55)
  • Vilém Tauský (1955)
  • Warwick Braithwaite (1956-61)
  • Charles Groves (1961-63)
  • Bryan Balkwill (1963-66)
  • James Lockhart (1968-73)
  • Richard Armstrong (1973-86)
  • Syr Charles Mackerras (1987-92)
  • Carlo Rizzi (1992-2001)
  • Tugan Sokhiev (2003-2004
  • Carlo Rizzi (2004-2007)
  • Lothar Koenigs (2009-16)
  • Tomáš Hanus (2016-)

Cyfeiriadau

  1. "The Beginnings of the National Eisteddfod". Amgueddfa Cymru. 6 Mawrth 2016.
  2. "Welsh National Opera", Merthyr Times, 21 Mai 1897, tudalen 3
  3. "Welsh National Opera", Merthyr Times, 21 Mai 1897, tudalen 3
  4. "Welsh Opera on Tour", Western Mail, 5 Medi 1890, tudalen 4; a "Dr Joseph Parry", The Manchester Guardian, 18 Chwefror 1903, tudalen 4.
  5. Griffel, p. xvii
  6. "Cardiff", The Era, 14 Rhagfyr 1927, tudalen 6; a "Cardiff", Western Morning News, 22 Mawrth 1930, tudalen 10
  7. Griffel, p. xvii
  8. Fawkes, tudalen 2
  9. Fawkes, tudalen 3
  10. Fawkes, tudalen 7
  11. James, Mary Auronwy (2001). "SMITH, WILLIAM HENRY (BILL; 1894 - 1968) president of the Welsh National Opera Company". Dictionary of Welsh Biography. National Library of Wales. 26 Chwefror 2016.
  12. Fawkes, tudalen 8
  13. Fawkes, tudalen 6
  14. Fawkes, tudalen 8
  15. Fawkes, tudalennau 10, 67 a 144
  16. Fawkes, tudalennau 6, 21 a 278–279
  17. Fawkes, tudalennau 278–279
  18. "Wales Breaks into Opera", Picture Post, 9 Mehefin 1951, t. 16–17
  19. "Opera in Wales: National Company's Fine Achievement", The Times, 22 Mai 1950, t. 6
  20. "Opera in Wales: National Company's Fine Achievement", The Times, 22 Mai 1950, t. 6
  21. "Opera in Wales: National Company's Fine Achievement", The Times, 22 Mai 1950, t. 6. Saesneg gwreiddiol: "making history for Wales. The shackles of puritanism, which had kept this country from an art-form perfectly suited to its national talents and predilections (for histrionics and dressing-up are as natural to the Welsh as singing) had been broken for ever"
  22. Forbes et al, t. 8
  23. "Welsh National Opera", The Times, 10 Hydref 1952, t.2
  24. "History", New Theatre, Cardiff, 27 Chwefror 2016
  25. Forbes et al, t. 10
  26. Forbes et al, t. 56
  27. Fawkes, t. 283
  28. Fawkes, t. 280
  29. Fawkes, t. 280
  30. "Menna", The Times, 10 Tachwedd 1953, t. 10
  31. "Opera Performances", The Musical Times, Mehefin 1953, t. 275
  32. "Welsh National Opera Company: A Revival of Verdi's Nabucco", The Manchester Guardian, 6 Hydref 1953, t. 4; and "Welsh National Opera Company", The Manchester Guardian, 8 Hydref 1953, t. 5
  33. Opera Performances", The Musical Times, Mehefin 1953, t. 275
  34. "London Music", The Musical Times, Medi 1955, t. 484; "Welsh National Opera", The Times, 12 Gorffennaf 1955, t. 5; a Hope-Wallace, Philip. "Menna at Sadler's Wells", The Manchester Guardian, 15 Gorffennaf 1955, t. 7
  35. Dann, t. 33
  36. Fawkes, t. 281
  37. Fawkes, t. 281
  38. Fawkes, t. 282
  39. Fawkes, t. 282
  40. Goodman a Harewood, t. 11–12
  41. Fawkes, t. 283
  42. Boyd, Malcolm. "Cardiff", The New Grove Dictionary of Opera, Oxford Music Online, Oxford University Press, 26 February 2016
  43. Fawkes, t. 283 – 284, a 287
  44. Fawkes, t. 285, 287 a 351
  45. Boyd, Malcolm. "Cardiff", The New Grove Dictionary of Opera, Oxford Music Online, Oxford University Press
  46. Goodman a Harewood, t. 16
  47. Fe berfformiodd y prif gwmni yn Birmingham, Bryste, Caerdydd, Lerpwl, Llandudno, Stratford-upon-Avon ac Abertaw, ac wnaeth y grwp canoliedig ymddangos yn Aberystwyth, Hwlffordd, Rhyl a Wrecsam. Goodman and Harewood, t. 67
  48. Goodman and Harewood, t. 16
  49. Boyd, Malcolm. "Cardiff", The New Grove Dictionary of Opera, Oxford Music Online, Oxford University Press
  50. Boyd, Malcolm. "Cardiff", The New Grove Dictionary of Opera, Oxford Music Online, Oxford University Press. Saesneg gwreiddiol: "unpredictable and often controversial".
  51. "Obituary: Michael Geliot", The Times, 25 Mehefin 2012, t. 48. Saesneg gwreddiol: "directing a host of groundbreaking productions."
  52. Dyfynnwyd yn Forbes et al, t. 52. Saesneg gwreiddiol: "I have never seen, well, hardly ever, a pretentious, silly or seriously misguided production, and neither have I seen a dull one. … The company's greatest virtue is that its work is dedicated above all to the service of composers and audiences, and not to some abstract notion of "prestige" nor to the vanity or ambition of individuals, and in this it is almost unique."
  53. Forbes et al, t.14
  54. "Theatres", The Times, 11 Rhagfyr 1979, t.9; 12 Rhagfyr 1979, t.10; 13 Rhagfyr 1979, t.7; 14 Rhagfyr 1979, t.13; and 15 Rhagfyr 1979, t.8
  55. Fawkes, t. 293
  56. Boyd, Malcolm. "Cardiff", The New Grove Dictionary of Opera, Oxford Music Online, Oxford University Press
  57. Reynish, Timothy. "Jenufa", The Guardian, 26 Tachwedd 1975, t. 10; Walsh, Stephen. "The elixir of life", The Observer, 10 Medi 1978, t. 32; Sutcliffe, Tom. "A bit foxed", The Guardian, 15 Tachwedd 1980, t. 11; Rosselli, John. "Katya Kabanova", The Guardian, 20 Mai 1982, t. 12; and Walsh, Stephen. "Janacek's chain-gang", The Observer, 14 Tachwedd 1982, t. 31
  58. Forbes et al, t. 14
  59. Fawkes, t. 78
  60. Fawkes, t. 143 a 215
  61. "National Library of Wales: Welsh National Opera Records", Archives Wales
  62. Alexander, David. "Welsh Drama Company", The Times, 19 Ebrill 1978, t. 17
  63. Boyd, Malcolm. "Cardiff", The New Grove Dictionary of Opera, Oxford Music Online, Oxford University Press
  64. Sutcliffe, Tom. "The return of the Ring-master", The Guardian, 20 Chwefror 1984, t. 9
  65. Boyd, Malcolm. "Cardiff", The Musical Times, Mai 1984, t. 284–285; Griffiths, Paul. "More subtlety in sound than in staging", The Times, 20 Chwefror 1984, t. 7
  66. "Welsh National Opera presents Fidelio" BBC Genome
  67. Gilbert, t. 334
  68. "What Sort of Opera for Covent Garden?", The Times, 9 Rhagfyr 1960, t. 18
  69. Lebrecht, t. 198; a Gilbert, t. 557.
  70. "The Force of Destiny", "Otello", BBC Genome
  71. Widdicombe, Gillian. "The flicker of understanding", The Observer, 25 Ebrill 1993, t. 59
  72. "The fine art of marking culture pay", The Times, 9 Mai 1991, t. 35
  73. Atkinson, t. 16
  74. Rockwell, John. "Boulez and Stein Stage Pelleas With Modern Nuances in Wales", The New York Times, 24 Chwefror 1992
  75. Hornsby, Michael and Sean Mac Carthaigh. "French ram ousts Blodwen the operatic ewe", The Times, 20 Ebrill 1992, t. 1
  76. 76.0 76.1 Atkinson, t. 16
  77. The Sunday Feature: Welsh National Opera at 50", BBC Genome
  78. 78.0 78.1 Ratcliffe, Michael. "Phantom at Welsh opera's birthday feast", The Observer, 17 Mawrth 1996. t. C10
  79. "Prom 66", Proms database, BBC
  80. "Welsh National Opera", Royal Opera House Collections Online
  81. Christiansen, Rupert. "The bean counters take over: Welsh National Opera is an outstanding company with a global – reputation – so why is the workforce mutinous and morale at a damagingly low ebb?", The Daily Telegraph, 14 Ionawr 2002
  82. Canning, Hugh. "Rizzi's honour", The Sunday Times, 19 Medi 2004
  83. Glancey, Jonathan. "Inside the whale", The Guardian, 27 Medi 2004
  84. Stuart, Philip. Decca Classical, 1929–2009
  85. Pelléas et Mélisande", World Cat
  86. Substantially the same forces also recorded four other Gilbert and Sullivan operas – Trial by Jury (1995), H.M.S. Pinafore (1994), The Pirates of Penzance (1993) and The Mikado (1991), but these sets were not made in conjunction with WNO stage productions, the company not having staged the works.
  87. "The Doctor of Myddfai", World Cat
  88. "Ariodante", World Cat
  89. "Katya Kabanova", World Cat
  90. Stuart, Philip. Decca Classical, 1929–2009
  91. "Welsh National Opera" World Cat.
  92. Stuart, Philip. Decca Classical, 1929–2009
  93. "Welsh National Opera" World Cat

Ffynonellau

  • Atkinson, Paul (2006). Everyday Arias: An Operatic Ethnography. Lanham, Maryland: AltaMira Press. IBSN 978-0-7591-0139-5.
  • Bassett, Peter (2003). The Nibelung's Ring: A Guide to Wagner's Der Ring des Nibelungen. Kent Town, S Australia: Wakefield Press. ISBN 978-1-86254-624-0.
  • Dann, John (2019). A Welsh Uncle, Memories of Tom Morgan 1898-1957. Peterborough. ISBN 978-178456-597-8.
  • Fawkes, Richard (1986). Welsh National Opera. London: MacRae. ISBN 978-0-86203-184-8.
  • Forbes, Elizabeth; et al. (1976) Welsh National Opera: 30th Anniversary. Cardiff: WNO. OCLC 222309258.
  • Gilbert, Susie (2009). Opera for Everybody. London: Faber and Faber. ISBN 978-0-571-22493-7.
  • Goodman, Lord; Lord Harewood (1969). A Report on Opera and Ballet in the United Kingdom, 1966-69. London: Arts Council of Great Britain. OCLC 81272.
  • Griffel, Margaret Ross (2013). Operas in English: A Dictionary. Lanham, Maryland: Scarecrow Press. ISBN 978-0-8108-8272-0.
  • Kennedy, Michael; Joyce Bourne Kennedy; Tim Rutherford-Johnson (2013). The Oxford Dictionary of Music (sixth ed.). Oxford: Oxford University Press. ISBN 978-0-19-957854-2.
  • Lebrecht, Norman (2001). Covent Garden: The Untold Story. Boston: Northeastern University PRess. ISBN 978-1-55553-488-2.
  • Simeone, Nigel;; John Tyrrell (2015), Charles Mackerras. Woodbridge: Boydell Press. ISBN 978-1-84383-966-8.
Cartref Opera Cenedlaethol Cymru - Canolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd

Dolenni allanol