Cwpan Cynghrair Cymru
Enghraifft o: | league cup |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1992 |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Gwefan | http://www.faw.org.uk/FixturesCup.ink?team=w6 |
Cystadleuaeth i glybiau pêl-droed Uwch Gynghrair Cymru yw Cwpan Cynghrair Cymru neu Cwpan Uwch Gynghrair Cymru;. Sefydlwyd y Gwpan yn 1992 a dyma'r ail gwpan bwysicaf i dimau sy'n chwarae pêl-droed yng Nghymru, wedi Cwpan Cymru a sefydlwyd yn nhymor 1877-78. Y gwahaniaeth fawr rhwng y ddau gwpan yw fod Cwpan Cymru yn agored i 135 tîm yn 2008-09, mae Cwpan Cynghrair Cymru ond yn agored i dimay sy'n chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru a rhai clybiau eraill. Enw'r gystadleuaeth yn Saesneg yw Welsh Premier League Cup (neu, wrth ei enw noddwr, Nathaniel MG Cup), yn flaenorol roedd yn Welsh League Cup.
Ni ddylid cymysgu'r Cwpan gyda'r Welsh Football League Cup sy'n agored i dimau Cynghrair Cymru (Y De) h.y. timau o dde a canolbarth Cymru ac sydd adran yn is na'r Uwch Gynghrair.
Fformat
Mae'r fformat wedi newid sawl gwaith ers y tro cyntaf yn 1992-93.
Yn 2006-07 - newidiwyd y fformat.[1] Gan ddechrau ym mis Awst, holltwyd yr 18 tîm yn yr Uwch Gynghrair fewn i 6 grŵp rhanbarthol o 3 tîm. Roedd enillwyr y 6 grŵp a dau dîm yn yr ail safle yn mynd i rownd y chwarteri. Ceir wedyn rownd gyn-derfynol dwy gêm cyn y ffeinal ym mis Ebrill.
Yn 2014-15 cyflwynwyd y fformat gyfredon. Roedd yr Uwch Gynghrair bellach yn cynnwys ond 12 tîm (lawr o'r 18 blaenorol). Ychwanegwyr 6 tîm o'r ddau is-adran Cynghrair Cymru (Y De) a Cynghrair Undebol y Gogledd yn ogystal â 4 tîm annisgwyl. Bydd 24 tîm felly yn cystadlu yn Rownd 1 gyda'r 4 tîm oedd yn y rownd gyn-derfynol y flwyddyn gynt yn hepgor y rown gyntaf a mynd syth i Rownd 2. Mae'r dewis timau ar gyfer pob rownd yn rhanbarthol, gyda'r timau wedi eu rhannu rhwng y De a'r Gogledd.
Newidiwyd y fformat rhywfaint unwaith eto at 2018-19 gyda phob rownd hyd at y gêm gyn-derfynol yn rhai rhanbarthol a'r semi-ffeinal yn agored. Cynhelir y semi-ffeinal ar y penwythnos yn 2018-19 am y tro cyntaf, yn hytrach na chwarae ganol wythnos.
Hanes
CP Afan Lido oedd enillwyr cyntaf y Gwpan yn 1992/93, gan guro C.P.D. Caersws 4–3 ar giciau o'r smotyn wedi iddynt gael gêm gyfartal 1–1 yn y ffeinal.[2] Clwb C.P.D. Y Seintiau Newydd sy'n dal y record ar gyfer y mwyaf o deitlau Cwpan Cynghrair gan ennill 6 cwpan. Mae C.P.D. Dinas Bangor wedi bod yn y mwyaf o gemau terfynol ond colli bob tro.
Datblygu
Cyhoeddodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru bydd timau dan-21 oed C.P.D. Dinas Caerdydd a C.P.D. Dinas Abertawe yn cystadlu yng nghystadleuaeth 'cardyn hap' yn nhymor 2023-24. Bu Caerdydd yn chwarae C.P.D. Cambrian a Clydach ac Abertawe yn chwarae Caerfyrddin.[3]
Nawdd
Ers 2003 enwyd y Gwpan ar ôl y noddwyr:
- Cwpan Cynghrair Cymr Loosemores (2003 i 2012), noddwyd gan Cyfreithwyr Loosemores, Caerdydd
- Cwpan the Word, The Word Cup, (2012 i 2016), noddwyd gan theWord, cyflenwyrr telegyfathrebu i Gaerdydd
- Cwpan Nathaniel MG (2016 i'r presennol), noddwyd gan Nathaniel MG Cars, cwpan gwerthu ceir, Penybont-ar-Ogwr
Arian Nawdd
Gwerth cyfanswm y Gwpan yw £15,000. Bydd £1,000 yn mynd i'r timau cyn-derfynol; £3,000 i'r tîm sy'n ail a £10,000 i enillwyr y Cwpan.[1]
Enillwyr
Cyfeiriadau
- ↑ 1.0 1.1 "The Loosemores League Cup". welshpremier.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-03-04. Cyrchwyd 23 December 2010.
- ↑ "Welsh League Cup Final – Match Report 1992/93". welsh-premier.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-01-24. Cyrchwyd 29 Awst 2009.
- ↑ Nodyn:Cite wen
- ↑ "List of Welsh League Cup Finals". The Rec.Sport.Soccer Statistics Foundation. Cyrchwyd 29 Awst 2009.
- ↑ "Welsh League Cup – All Time Results". welsh-premier.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-05-13. Cyrchwyd 7 Mai 2011.
- ↑ "Y Bala yn ennill Cwpan Nathaniel MG am y tro cyntaf yn eu hanes!". Sgorio ar Youtube. 2023.
Dolenni allanol
- Tudalen Cwpan Nathaniel MG ar wefan [[Sgorio]