Cwtiad aur
Cwtiad aur | |
---|---|
![]() | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Charadriiformes |
Teulu: | Charadriidae |
Genws: | Pluvialis |
Rhywogaeth: | P. apricaria |
Enw deuenwol | |
Pluvialis apricaria (Linnaeus, 1758) |

Mae'r Cwtiad aur (Pluvialis apricaria) yn aelod o deulu'r rhydyddion.
Yn y tymor nythu mae'n aderyn hawdd ei adnabod, gyda smotiau aur a du ar y pen a'r cefn a'r fron a'r bol yn ddu. Yn y gaeaf mae'r fron a'r bol yn troi'n wyn ac mae'n haws ei gymysgu gyda'r Cwtiad llwyd, ond mae'n parhau i ddangos rhywfaint o aur ar y cefn.

Mae'n nythu ar rostir agored yng ngogledd Ewrop a gorllewin Asia, gan adeiladu'r nyth ar lawr. Mae'n aderyn mudol, yn symud tua'r de yn y gaeaf cyn belled a de Ewrop a gogledd Affrica.
Yn wahanol i lawer o rydyddion, nid ydynt yn gwthio'r pig i'r mwd i chwilio am fwyd, yn hytrach maent yn cerdded o gwmpas i chwilio am unrhyw pryfed neu anifeiliaid bach sydd i'w gweld ar yr wyneb. Yn y gaeaf gellir eu gweld yn bwydo mewn caeau yn ogystal ag o gwmpas glannau'r môr.
Mae nifer fychan ohonynt yn nythu yng Nghymru ar yr ucheldiroedd, er enghraifft ar y Berwyn, ond mae'r niferoedd wedi gostwng yn y blynyddoedd diwethaf. Yn y gaeaf mae niferoedd llawr mwy yn dod i aeafu yma, a gellir gweld heidiau o filoedd ohonynt mewn ambell fan.