Daearyddiaeth Ewrop
Mae anghytundeb ynglŷn ag union ffiniau Ewrop, ac yn wir dywed rhai nad yw Ewrop yn gyfandir o gwbl, ond yn orynys anferth sy'n rhan o gyfandir Asia am nad oes ffîn naturiol bendant rhyngddynt; cyfeirir at yr uned ddaearyddol honno fel Ewrasia. Y ffîn a dderbynnir fel arfer i wahanu'r ddau gyfandir yw mynyddoedd yr Ural sy'n rhedeg o'r gogledd i'r de trwy ganol Rwsia; nid yw pawb yn cytuno fod ardal y Caucasus yn rhan o Ewrop yn ddaearyddol. Y ffîn orllewinnol yw Cefnfor Iwerydd, ac i'r de a'r de-ddwyrain mae'r Môr Canoldir yn ffîn i'w wahanu oddi wrth Affrica ac Asia Leiaf.
O gymharu ag Asia nid yw Ewrop yn cael hafau mor boeth na gaeafau mor oer, oherwydd nad oes unman mor bell o'r môr ag yn Asia. Hefyd mae'r prif fynyddoedd yn rhedeg o'r gorllewin tuag at y dwyrain ac felly does dim i atal y gwyntoedd cynnes o'r môr rhag cyrraedd i mewn ymhell i'r tir.
Mae dyfroedd bas gerllaw glannau môr gorllewin Ewrop, ac o ganlyniad mae'n lle da i bysgota ac mae'r diwydiant pysgota yn bwysig i nifer o wledydd Ewrop.
Gwladychwyd Ewrop gyntaf gan bobl yn dod o Asia a Gogledd Affrica, yn ôl pob tebyg. Daeth y Celtiaid, cyndeidiau'r Cymry, yn wreiddiol o orllewin Asia drwy dde-ddwyrain Ewrop.
Mae hinsawdd Ewrop yn dymherus, gyda llawer o dir ffrwythlon. Mae llawer o haearn crai a glo yng ngogledd-orllewin y cyfandir.
Rhanbarthau Ewrop
- Balcanau
- Benelux
- Canolbarth Ewrop
- Dwyrain Ewrop
- Gogledd Ewrop
- Gorllewin Ewrop
- Iberia
- Llychlyn
- Rhanbarth Macedonia
- Prydain ac Iwerddon
Mynyddoedd Ewrop
Ceir sawl cadwyn mynydd ac ardal fynyddig yn Ewrop. Maent yn cynnwys:
- Yr Alpau, yng nghanol y cyfandir; cadwyn bwysicaf Ewrop sy'n ymrannu yn sawl is-gadwyn
- Alpau Transilvania, yn Rwmania
- Yr Apenninau, sy'n rhedeg i lawr canol Yr Eidal
- Mynyddoedd y Balcanau
- Mynyddoedd Cantabria, yng ngogledd Sbaen
- Y Carpatiau, yn nwyrain Ewrop
- Mynyddoedd Norwy, cadwyn uchaf Llychlyn
- Y Pyreneau, rhwng Ffrainc a Sbaen, sy'n cynnwys Andorra
- Sierra Nevada, yn ne Sbaen
- Ucheldiroedd yr Alban
- Mynyddoedd yr Ural, yn Rwsia, sy'n nodi'r ffin draddodiadol rhwng Ewrop ac Asia.
Moroedd Ewrop
Yn ogystal â ffinio â'r Iwerydd a'r Môr Canoldir, mae Ewrop yn cynnwys sawl môr.
- Môr Adria, sy'n gorwedd rhwng Yr Eidal a gwledydd y Balcanau.
- Môr Aegea, sy'n gorwedd rhwng Gwlad Groeg ac Asia Leiaf (Twrci)
- Y Môr Baltig, sy'n gorwedd rhwng Llychlyn i'r gorllewin a'r Ffindir a Gwastadedd Gogledd Ewrop i'r dwyrain a'r de.
- Y Môr Du, sy'n gorwedd rhwng Twrci i'r de, Bwlgaria a Rwmania i'r gorllewin, Iwcrain a Rwsia i'r gogledd, a gwledydd y Caucasus i'r dwyrain.
- Môr y Gogledd, sy'n gorwedd rhwng Prydain i'r gorllewin, yr Iseldiroedd a'r Almaen i'r de a Llychlyn i'r dwyrain.
- Y Môr Gwyn, rhwng y Ffindir a Rwsia, yn yr Arctig
- Môr Ionia, sy'n gorwedd rhwng de'r Eidal a Gwlad Groeg
- Môr Iwerddon, sy'n gorwedd rhwng Iwerddon a gwledydd Prydain
- Môr Liguria, sy'n gorwedd rhwng Corsica a'r Eidal
- Môr Norwy, sy'n gorwedd rhwng Norwy a Gwlad yr Iâ
Llynnoedd ac afonydd Ewrop
Afonydd
Prif afonydd Ewrop yw:
Ynysoedd Ewrop
Mae Ewrop yn gyfandir sy'n cynnwys nifer o ynysoedd mawr a bychain. Mae'r ynysoedd morol pwysicaf yn cynnwys:
- Ynysoedd Baleares (Sbaen), yn y Môr Canoldir.
- Corsica (Ffrainc), yn y Môr Canoldir.
- Creta (Gwlad Groeg), yn y Môr Canoldir.
- Cyprus (dwy wladwriaeth annibynnol ar ei gilydd), yn y Môr Canoldir.
- Ynysoedd Faeroes (Denmarc), yn yr Iwerydd.
- Ynysoedd Groeg, yn y Môr Canoldir, sy'n cynnwys nifer o is-grwpiau pwysig fel y Dodecanese.
- Gwlad yr Iâ, yn yr Iwerydd.
- Gotland (Sweden), yn y Môr Baltig.
- Iwerddon, yn yr Iwerydd.
- Malta (annibynnol), yn y Môr Canoldir.
- Ynys Manaw, ym Môr Iwerddon
- Orkney, yn yr Iwerydd.
- Prydain, yn yr Iwerydd.
- Sardinia (Yr Eidal), yn y Môr Canoldir.
- Shetland (Yr Alban/DU), yn yr Iwerydd.
- Ynysoedd y Sianel, ym Môr Udd
- Sisili (Yr Eidal), yn y Môr Canoldir.
- Zealand (Denmarc), yn y Môr Baltig.
Gweler hefyd
|