David McKee
David McKee | |
---|---|
Ffugenw | Violet Easton |
Ganwyd | David John McKee 2 Ionawr 1935 Tavistock, Plympton |
Bu farw | 6 Ebrill 2022 Nice |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, darlunydd, awdur plant, arlunydd, gwneuthurwr ffilm |
Adnabyddus am | Mr Benn |
Arddull | llenyddiaeth plant |
Awdur a darlunydd o Loegr yw David McKee (2 Ionawr 1935 – 7 Ebrill 2022), oedd yn gweithio'n bennaf ar lyfrau ac animeiddio plant. Wnaeth hefyd ddefnyddio'r ffugenw Violet Easton.
Bywgraffiad
Ganwyd yn Nyfnaint, De-orllewin Lloegr. Wedi iddo fynychu'r ysgol ramadeg lleol, aeth ymlaen i astudio yng Ngholeg Celf Plymouth. Dechreuodd werthu cartwnau tra'n dal yn y coleg, yn arbennig i'r wasg genedlaethol. Wedi gorffen y coleg, parhaodd i wneud hyn er mwyn cynnal ei hun tra'n paentio, gan ddarlunio yn reolaidd ar gyfer Punch, Reader's Digest a The Times Educational Supplement ymysg eraill.
Y llyfr cyntaf iddo werthu oedd un o'r straeon a oedd yn ei adrodd tra yn y coleg, Two Can Toucan. Mae'n dilyn aderyn o Dde Affrica sy'n gallu cludo dwy din o baent ar ben ei big enfawr. Cyhoeddwyd hwn gan Abelard-Schuman ym 1964, ac fe ail-ddarluniodd McKee y llyfr pan gafodd ei ail-gyhoeddi yn 1985 gan Andersen Press, gwnaethpwyd ail-argraffiad yn 2001.
Defnyddiodd y BBC rai o'i lyfrau ar y teledu, gan holi a oedd yn bosib troi un ohonynt yn ffilm. Arweiniodd hyn at waith teledu cyntaf McKee, sef cyfres Mr Benn. Dilynwyd hyn gan bump ffilm ar gyfer cronfa Save the Children, a chyfres yn seiliedig ar lyfrau King Rollo ar y cyd gyda dau ffrind, Clive Juster a Leo Nielsen. Dechreuwyd cwmni King Rollo Films, ac mae'r cwmni wedi parhau i fod yn llwyddiannus ers hynny, gyda McKee yn ymwneud fel awdur yn bennaf. Maent wedi bod yn gyfrifol am sawl ffilm gan gynnwys Towser gan Tony Ross, Spot the Dog gan Eric Hill, a Maisy gan Lucy Cousins. Mae'r cwmni yn bwriadu cynhyrchu 26 o ffilmiau animieiddiedig wedi eu seilio ar ei gymeriad Elmer (Elfed yr Eliffant Clytwaith yn Gymraeg).
Mae wedi cynhyrchu nifer o gymeriadau sydd wedi cael eu datblygu'n gyfresi o lyfrau, gan gynnwys King Rollo a Mr Benn. Creadigaeth enwog arall ydy Elfed yr Eliffant Clytwaith. Caiff llyfrau Elfed eu cyhoeddi mewn dros 20 gwlad gyda llu o gynnyrch cysylltiedig gan gynnwys teganau meddal ar gael gan gwmnïau megis London Emblem.
Mae David McKee wedi ysgrifennu a darlunio dros 30 o lyfrau ar gyfer gwasg Andersen, mae rhain yn cynnwys:
- Tusk Tusk (1978) ISBN 0-916291-28-6
- Not Now, Bernard (1980) ISBN 0-05-004559-8
- I Hate My Teddybear (1982)
- Two Monsters (1985)
- The Hill and the Rock (1984)
- Elmer (1989) ISBN 0-688-09171-7
- Elmer Again (1991)
- Elmer on Stilts (1993)
- Elmer and Wilbur (1994) ISBN 0-06-075239-4
- Elmer in the Snow (1995)
- Elmer and the Wind (1997)
- Elmer and the Stranger (2000)
- Elmer and the Lost Teddy (1999)
- Elmer Plays Hide and Seek (1998)
- The Elmer Pop up Book (1996)
- Look! There’s Elmer (2000)
- Elmer and Grandpa Eldo (2001)
- The School Bus Comes At 8 O’clock (1993)
- Isabel’s Noisy Tummy (1994)
- The Sad Story of Veronica (1987)
- Snow Woman (1987)
- Zebra’s Hiccups (1991)
- Who’s a Clever Baby Then? (1988)
- The Monster and the Teddy Bear (1989)
- King Rollo and the bread (1979) ISBN 0-316-56044-8
- King Rollo and the new shoes (1979) ISBN 0-316-56044-8
- King Rollo and the birthday (1979) ISBN 0-316-56044-8
- King Rollo and the Letter (1984)
- Two Can Toucan (1985)
- Charlotte’s Piggy Bank (1996)
- Prince Peter and the Teddy Bear (1997)
- Mary’s Secret (1999)
- King Rollo and the New Stockings (2001)
- Mr Benn – Gladiator (2001)
- Elmer’s Concert (2001)
- Elmer and Butterfly (2002)
- Elmer’s New Friend (2002)
- Elmer and the Hippos (2003)
- The Adventures of Charmin the Bear (Darlunwyd gan Joanna Quinn, 2003)
- Who is Mrs. Green? (2003)
- The Conquerors (2004)
Mae hefyd wedi darlunio llyfrau gan awduron eraill, gan gynnwys llyfrau diweddar Paddington Bear.
Mae wedi cynhyrchu nifer o lyfrau bwrdd, llyfrau bath, llyfrau lliwio, llyfrau llabed, llyfr twll yn y dudalen a llyfr pop-up Elfed yr Eliffant Clytwaith.
Dolenni allanol
- David Mckee, Andersen Press
- Times cyfweliad gyda David McKee.