David Mundell

David Mundell
David Mundell


Deiliad
Cymryd y swydd
5 Mai 2005

Geni 27 Mai 1962
Yr Alban
Cenedligrwydd Albanwr
Etholaeth Swydd Dumfries, Clydesdale a Tweeddale
Plaid wleidyddol Y Blaid Geidwadol
Priod Lynda Carmichael
Alma mater Prifysgol Caeredin
Galwedigaeth Gwleidydd
Gwefan http://www.snp.org/

Gwleidydd o'r Alban yw David Mundell (ganwyd 27 Mai 1962) a etholwyd yn Aelod Seneddol yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2005 dros Swydd Dumfries, Clydesdale a Tweeddale; mae'r etholaeth yn Dumfries a Galloway, Gororau'r Alban a De Swydd Lanark, yr Alban. Mae David Mundell yn cynrychioli'r Ceidwadwyr yn Nhŷ'r Cyffredin. Ef yw'r unig Aelod Seneddol Ceidwadol yn yr Alban.

Etholiad 2015

Yn Etholiad Cyffredinol 2015 enillodd Plaid Genedlaethol yr Alban 56 allan o 59 sedd yn yr Alban.[1][2] Yn yr etholiad hon, derbyniodd David Mundell 20,759 o bleidleisiau, sef 39.8% o'r holl bleidleisiau a fwriwyd, sef gogwydd o +1.8 ers etholiad 2015 a mwyafrif o ddim ond 798 pleidlais.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau