De Tyneside
![]() | |
Math | bwrdeistref fetropolitan, ardal ddi-blwyf ![]() |
---|---|
Ardal weinyddol | Tyne a Wear |
Prifddinas | South Shields ![]() |
Poblogaeth | 150,265 ![]() |
Sefydlwyd |
|
Gefeilldref/i | Épinay-sur-Seine, Wuppertal, Noisy-le-Sec ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Tyne a Wear (Sir seremonïol) |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 64.3943 km² ![]() |
Gerllaw | Afon Tyne, Môr y Gogledd ![]() |
Yn ffinio gyda | Gogledd Tyneside, Dinas Sunderland, Bwrdeistref Fetropolitan Gateshead, Dinas Newcastle upon Tyne ![]() |
Cyfesurynnau | 54.959°N 1.438°W ![]() |
Cod SYG | E08000023, E43000177 ![]() |
GB-STY ![]() | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | council of South Tyneside Council ![]() |
Bwrdeistref fetropolitan yn Tyne a Wear, Gogledd-ddwyrain Lloegr, yw De Tyneside (Saesneg: South Tyneside).
Mae gan y fwrdeistref arwynebedd o 64.4 km², gyda 150,976 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio ar Ddinas Sunderland i'r de, Bwrdeistref Fetropolitan Gateshead a Dinas Newcastle upon Tyne i'r gorllewin, Gogledd Tyneside i'r gogledd, a Môr y Gogledd i'r dwyrain.
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/6/67/South_Tyneside_UK_locator_map.svg/220px-South_Tyneside_UK_locator_map.svg.png)
Ffurfiwyd y fwrdeistref dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974.
Mae'r fwrdeistref yn hollol ddi-blwyf. Mae ei phencadlys yn nhref South Shields. Mae aneddiadau eraill yn cynnwys trefi Hebburn a Jarrow.
Cyfeiriadau
- ↑ City Population; adalwyd 30 Gorffennaf 2020