Diamonds Are Forever (ffilm)
Poster y Ffilm | |
---|---|
Cyfarwyddwr | Guy Hamilton |
Cynhyrchydd | Harry Saltzman Albert R. Broccoli |
Ysgrifennwr | Richard Maibaum Tom Mankiewicz (sgript) Ian Fleming (nofel) |
Serennu | Sean Connery Charles Gray Jill St. John |
Cerddoriaeth | John Barry |
Sinematograffeg | Ted Moore |
Golygydd | Bert Bates John Holmes |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | United Artists |
Amser rhedeg | 115 munud |
Gwlad | Deyrnas Unedig |
Iaith | Saesneg |
(Saesneg) Proffil IMDb | |
Y seithfed ffilm yng nghyfres James Bond yw Diamonds Are Forever (1971), a dyma'r chweched ffilm (a'r un olaf) i Sean Connery chwarae rhan yr asiant i MI6. Seiliwyd y ffilm ar nofel Ian Fleming o 1956 o'r un enw, a dyma'r ail o bedair ffilm James Bond i gael ei gyfarwyddo gan Guy Hamilton. Yn y stori, mae Bond yn esgus bod yn smyglwr diemyntau er mwyn casglu gwybodaeth am griw o smyglwyr. Yn fuan darganfydda Bond gynllwyn gan ei hen-elyn Blofeld i ddefnyddio'r diemyntau ac i adeiladu lloerenn laser enfawr a fyddai'n cael ei ddefnyddio er mwyn dal y byd yn wystl.
Roedd Diamonds Are Forever yn llwyddiant masnachol, ond cymysg fu ymateb y beirniaid i'r naws dychanol a doniol a geir yn y ffilm.
|