Adnabyddwr neu ddolen barhaol ar gyfer dynodi gwrthrychau yw'r adnabyddwr gwrthrychau digidol (digital object identifier neu DOI). Fe'i safonir gan y corff rhyngwladol ISO.[1] Defnyddir dolenni DOI yn bennaf ar gyfer dynodi gwybodaeth academaidd, proffesiynol a materion y llywodraeth megis erthyglau siwrnal, adroddiadau ymchwil, setiau data a chyhoeddiadau swyddogol.