Doubt (ffilm 2008)

Doubt
Cyfarwyddwr John Patrick Shanley
Cynhyrchydd Scott Rudin
Ysgrifennwr John Patrick Shanley
Serennu Meryl Streep
Philip Seymour Hoffman
Amy Adams
Viola Davis
Cerddoriaeth Howard Shore
Dylunio
Cwmni cynhyrchu Miramax Films
Dyddiad rhyddhau 30 Hydref, 2008 (Gwyl Ffilmiau Americanaidd)
12 Rhagfyr, 2008 (cyfyngedig)
25 Rhagfyr, 2008 (bydeang)
Amser rhedeg 104 munud
Gwlad Unol Daleithiau
Iaith Saesneg

Mae Doubt (2008) yn addasiad ffilm o ddrama lwyfan John Patrick Shanley, Doubt: A Parable. Ysgrifennwyd a chyfarwyddwyd y ffilm gan Shanley a chafodd ei chynhychu gan Scott Rudin. Mae'r ffilm yn serennu Meryl Streep, Philip Seymour Hoffman, Amy Adams a Viola Davis. Cafodd ei noson agoriadol ar y 30ain o Hydref, 2008 yn yr Wyl Ffilmiau Americanaidd, cyn y cafodd y ffilm ei dosbarthu'n gyfyngedig gan Miramax Films ar y 12fed o Ragfyr, 2008. Rhyddhawyd y ffilm yn gyffredinol ar y 25ain i Ragfyr, 2008.

Themâu

Un o brif themâu'r ffilm yw nad oes angen tystiolaeth ar bobl sydd â ffydd crefyddol: gwelwn yn Chwaer Aloysius yn credu fod y Tad Flynn yn euog heb fod angen tystolaeth arni, yn yr un modd ag y mae'n credu yn Nuw heb deimlo'r angen am dystiolaeth o'i fodolaeth; thema cyson yw ei gallu i fod yn argyhoeddedig am rai pethau (heb dystiolaeth), hyd yn oed pan fod pobl eraill (fel y Chwaer James) yn credu ei bod yn anghywir. Ar un lefel, gellir cymryd llinell olaf y ffilm "I have such doubts" i olygu fod ganddi amheuon am euogrwydd y Tad Flynn, ond ar lefel arall ac yng nghyd-destun ei phendantrwydd trwy gydol y ffilm am y mater hwn, gellir ei gymryd i feddwl fod ei ffydd yn yr Eglwys ac yn ei chrefydd yn cael ei gwestiynu.

Cast

Gwobrau

Cafodd Doubt ei henwebu am bump o Wobrau'r Academi ar yr 22ain o Ionawr, 2009 am y pedwar prif actor ac am sgript Shanley.

Gwobrau
Gwobr Categori Derbyniwr/wyr Canlyniad
Wobrau'r Academi Yr Actores Orau Meryl Streep Enwebwyd
Yr Actor Cefnogol Gorau Philip Seymour Hoffman Enwebwyd
Yr Actores Gefnogol Orau Amy Adams Enwebwyd
Yr Actores Gefnogol Orau Viola Davis Enwebwyd
Addasiad Gorau o Sgript John Patrick Shanley Enwebwyd
Gwobrau BAFTA Yr Actores Orau Meryl Streep Enwebwyd
Yr Actor Cefnogol Gorau Philip Seymour Hoffman Enwebwyd
Yr Actores Gefnogol Orau Amy Adams Enwebwyd
Gwobrau Cymdeithas Beirniaid Ffilm Chicago 2008]] Yr Actores Orau Meryl Streep Enwebwyd
Yr Actor Cefnogol Gorau Philip Seymour Hoffman Enwebwyd
Yr Actores Gefnogol Orau Amy Adams Enwebwyd
Yr Actores Gefnogol Orau Viola Davis Enwebwyd
Addasiad Gorau o Sgript John Patrick Shanley Enwebwyd
Gwobrau Cymdeithas Beirniaid Ffilm Broadcast 2008 Y Ffilm Orau Enwebwyd
Yr Actores Orau Meryl Streep Enillodd
Yr Actor Cefnogol Gorau Philip Seymour Hoffman Enwebwyd
Yr Actores Gefnogol Orau Viola Davis Enwebwyd
Yr Ensemble Actio Gorau Enwebwyd
Yr Ysgrifennwr Gorau John Patrick Shanley Enwebwyd
Gwobrau Cymdeithas Beirniaid Ffilm Dallas-Fort Worth 2008 Yr Actores Gefnogol Orau Viola Davis Enillodd
Gwobrau Cymdeithas Beirniaid Ffilm Detroit Yr Actores Orau Meryl Streep Enwebwyd
Yr Actores Gefnogol Orau Amy Adams Enwebwyd
Gwobrau'r Golden Globe Y Perfformiad Gorau mewn Ffilm Ddrama Meryl Streep Enwebwyd
Y Perfformiad Gorau gan Actor Mewn Rôl Gefnogol Mewn Ffilm Ddrama Philip Seymour Hoffman Enwebwyd
Y Perfformiad Gorau gan Actores Mewn Rôl Gefnogol Mewn Ffilm Ddrama Amy Adams Enwebwyd
Y Perfformiad Gorau gan Actores Mewn Rôl Gefnogol Mewn Ffilm Ddrama Viola Davis Enwebwyd
Sgript Orau mewn Ffilm Ddrama John Patrick Shanley Enwebwyd
Cymdeithas Beirniaid Ffilm Houston 2008 Yr Actores Gefnogol Oau Viola Davis Enillodd
Y Cast Gorau Enillodd
Gwobrau'r Bwrdd Cenedlaethol o Adolygiadau 2008 Perfformiad Dylanwadol Cyntaf gan Actores Viola Davis Enillodd
Y Cast Gorau Enillodd
Gwyl Ffilmiau Rhyngwladol Palm Springs Gwobr Spotlight Amy Adams Enillodd
Gwobrau Cymdeithas Beirniaid Ffilm Phoenix Yr Actores Orau Meryl Streep Enillodd
Gwobrau Satellite 2008 Yr Actores Orau Mewn Ffilm Ddrama Meryl Streep Enwebwyd
Yr Actor Gorau Mewn Rôl Gefnogol Philip Seymour Hoffman Enwebwyd
Yr Actores Orau Mewn Rôl Gefnogol Viola Davis Enwebwyd
Addasiad Gorau o Sgript John Patrick Shanley Enwebwyd
Gwobrau Cymdeithas yr Actorion Sgrîn Perfformiad Eithriadol gan Actores Mewn Prif Rôl Meryl Streep Enillodd
Perfformiad Eithriadol gan Actor Mewn Rôl Gefnogol Philip Seymour Hoffman Enwebwyd
Perfformiad Eithriadol gan Actores Mewn Rôl Gefnogol Amy Adams Enwebwyd
Perfformiad Eithriadol gan Actores Mewn Rôl Gefnogol Viola Davis Enwebwyd
Perfformiad Eithriadol gan Gast Mewn Ffilm Enwebwyd
Gwobrau Cymdeithas Beirniaid Ffilm St. Louis Gateway 2008 Yr Actores Gefnogol Orau Amy Adams Enwebwyd
Yr Actores Gefnogol Orau Viola Davis Enillodd
Gwobrau Cymdeithas Beirniaid Ffilm Ardal Washington D.C. 2008 Yr Actores Orau Meryl Streep Enillodd
Y Cast Gorau Enillodd
Eginyn erthygl sydd uchod am ffilm. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.