Dyfan Dwyfor

Dyfan Dwyfor
GanwydCricieth Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor, actor teledu Edit this on Wikidata

Actor Cymreig yw Dyfan Dwyfor, sy'n dod o Gricieth yn wreiddiol. Mynychodd Ysgol Eifionydd, Porthmadog a Choleg Meirion Dwyfor cyn mynd ymlaen i Ysgol Glanaethwy.[1] Graddiodd o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn 2007.

Dechreuodd actio yng nghyfres Rownd a Rownd. Ymysg ei ymddangosiadau cynharaf ar y teledu, chwaraeodd Dwyfor ran yn nrama Oed yr Addewid, enillodd y ddrama dair gwobr BAFTA Cymru a FIPA Aur.

Enillodd Wobr Richard Burton yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn 2004.[2]

Ymddangosodd Dwyfor fel gweinydd Paradise yn I Know You Know, yn serenu Robert Carlyle.

Gwaith

Teledu

  • Caerdydd, "Jamie"
  • Rownd a Rownd, "Tom"
  • Pen Tennyn, "John Iwan"
  • A470, "Silver"
  • Requiem (2017), "Ed"

Ffilm

  • Oed yr Addewid (2002), fel "Stephen"
  • The Baker (2007), fel "Eggs"
  • I Know You Know (2008), fel "gweinydd Paradise"
  • Basket Case (2009), fel "Jez" - ffilm fer
  • Pride (2014), "Lee"
  • Shakespeare's Globe: Titus Andronicus (2015), fel "Lucius"
  • Yr Ymadawiad (2015), fel "Iwan"
  • Y Llyfrgell (2016), fel "Dan"
  • Manhunt (2016), fel "gweinydd Paradise" - ffilm fer

Theatr

  • Silence, RSC
  • Little Eagles, RSC
  • Romeo & Juliet, fel "Peter", RSC
  • Morte D'Arthur, RSC
  • The Grain Store/The Drunks, RSC
  • The Comedy of Errors, fel "Dromio Of Ephesus", RSC, The Swan Theatre, Stratford (2006)
  • As You Like It, fel "William", RSC
  • Six Characters in Search of an Author, fel "Son", Headlong Theatre
  • Hamlet, fel "Laertes"

Cyfeiriadau

  1.  Dyfan Dwyfor yn Stratford. BBC Cymru (Hydref 2006).
  2.  Dyfan Dwyfor. Markham & Froggart.

Dolenni allanol