Edward Thomas
Edward Thomas | |
---|---|
Ffugenw | Edward Eastaway |
Ganwyd | 3 Mawrth 1878 Lambeth |
Bu farw | 9 Ebrill 1917 Arras |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | bardd, llenor, beirniad llenyddol |
Tad | Philip Henry Thomas |
Priod | Helen Thomas |
Plant | Myfanwy Thomas |
Bardd, traethodydd a nofelydd o Sais o dras Gymreig oedd Philip Edward Thomas (3 Mawrth 1878 – 9 Ebrill 1917, Arras, France).
Fe'i ganwyd yn Lambeth, Llundain, aelod teulu Cymreig. Cafodd ei addysg yng Ngholeg Lincoln, Rhydychen.
Caiff ei adnabod yn bennaf fel bardd rhyfel, er mai prin yw ei gerddi sy'n ymdrin yn benodol â'i brofiad o ryfel, a bod ei yrfa fel bardd wedi dilyn ei cryn lwyddiant fel awdur a beirniad llenyddol.
Yn 1915, ymrestrodd â'r Fyddin er mwyn ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf ac fe'i lladdwyd ar faes y gad ym Mrwydr Arras yn 1917, yn fuan wedi iddo gyrraedd Ffrainc.
Roedd yn briod â Helen Thomas, awdur As It Was (1926), sy'n trafod eu carwriaeth a'u priodas. Mae'n adnabyddus am ei gerddi am y Rhyfel Byd Cyntaf.
Llyfryddiaeth
Barddoniaeth
- Six Poems (1916; fel "Edward Eastaway")
- Poems (1917)
Nofelau
- The Happy-Go-Lucky Morgans (1913)
Eraill
- The Woodland Life (1897
- The Heart of England (1906)
- The South Country (1909)
- The Icknield Way (1913)
Cofiant
- Matthew Hollis: Now all Roads lead to France: The Last Years of Edward Thomas, Faber & Faber, London 2011, ISBN 978-0-571-24598-7.