El Jem

El Jem
Mathmunicipality of Tunisia Edit this on Wikidata
Poblogaeth50,611 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirMahdia Edit this on Wikidata
GwladBaner Tiwnisia Tiwnisia
Cyfesurynnau35.3°N 10.72°E Edit this on Wikidata
Cod post5160 Edit this on Wikidata

Mae El Jem neu El Djem (arabeg: الجم) yn ddinas yn Nhiwnisia a leolir yng ngogledd-orllewin canolbarth y wlad yn ardal y Sahel. Mae hi'n gorwedd tua hanner ffordd rhwng Sousse i'r gogledd a Sfax i'r de ac ychydig dros 40 km o dref Mahdia ar yr arfordir i'r dwyrain.

Yn weinyddol mae hi'n rhan o dalaith Mahdia, ac yn ddinas gyda phoblogaeth o 18,302 o bobl.

Tyfodd El Jem ar safle dinas hynafol Thysdrus, ac mae'n enwog am ei amffitheatr, y drydedd mwyaf yn yr Ymerodraeth Rufeinig (yn dal mwy na 30 000 o wylwyr) ar ôl y Colosseum yn Rhufain (45 000) ac amffitheatr Capua.

Hanes

Sefydlwyd dinas ar y safle gan y Ffeniciaid. Yn nghyfnod y Cesariaid, cafodd fraint coloni ac wedyn cafodd ei hymgorffori yn nhalaith Rufeinig Byzacene. Yn gorwedd yng nghanol ardal amaethyddol ffrwythlon iawn, ymddengys fod y ddinas wedi bod yn un eithaf cyfoethog. Mwynheai nawdd economaidd a gwleidyddol gan yr ymerodron Rhufeinig Vespasian a Titus. Roedd yn gorwedd ar groesffordd rhwydwaith o ffyrdd Rhufeinig pwysig, a daeth Thysdrus yn ganolfan fasnachol ddeinamig.

Ar ddechrau 238, cafwyd cynllwyn a gwrthryfel yn Thysdrus a effeithiodd yn fawr ar hanes yr ymerodraeth. Am fod trethi amaethyddol mor drwm gwrthryfelodd pobl y ddinas a'r ardal. Ar ôl cyfres o ymladdfeydd, lladdwyd y procurator, ac aeth y gwrthryfelwyr i gartref Gordian, proconsul talaith Affrica, yn Thysdrus i'w gyhoeddi'n ymerodr. Aeth yr ymerodr newydd, gyda'i fab Gordian II, i Carthago. Daeth rhyfel cartref byrhoedlog wedyn a arweiniodd yn y pen draw, diolch i gefnogaeth yn senedd Rhufain, at gael gwared â'r ymerodr swyddogol Maximinius y Thraciad a chyhoeddi'r Gordian III ifanc yn ymerodr.

Amgueddfa archaeololegol

Ar ymyl y ddinas ceir amgueddfa lle cedwir nifer o fosaics a ddarganfuwyd yn villas Thysdrus; maent yn cynnwys portread o'r dduwies Affrica. Ceir enghreifftiau eraill yn Amgueddfa Bardo, Tiwnis ac yn amgueddfa Sousse yn ogystal.

Mae El Jem yn gartref i ŵyl cerddoriaeth glaurol adnabyddus a gynhelir yn yr haf bob blwyddyn.

Llyfryddiaeth

  • Gilbert Charles-Picard, La civilisation de l'Afrique romaine (Paris, Études Augustiniennes, 1990)

Dolenni allanol