Eliffant môr

Eliffant môr
Enghraifft o:tacson Edit this on Wikidata
Safle tacsongenws Edit this on Wikidata
Rhiant dacsonMonachinae Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae eliffantod môr yn famaliaid morol mawr sy'n perthyn i'r genws Mirounga. Mae'n nhw'n aelodau o'r teulu Phocidae.[1] Yr anifeiliaid hyn yw'r mwyaf o deulu y morloi. Gall gwryw ar ei lawn dwf gyrraedd hyd o 4.0-5.8 metr a phwyso dros 3.5 tunnell, sy'n tua 8 gwaith yn drymach na benyw aeddfed. Fe'u gelwir yn eliffantod oherwydd swmp enfawr y gwryw a hefyd ei drwyn mawr sy'n debyg i drwnc.

Mae'r genws yn cynnwys dwy rywogaeth:[2]

  • Mirounga angustirostris, Eliffant Môr y Gogledd
  • Mirounga leonina, Eliffant Môr y De

Ceir Eliffantod Môr y Gogledd ar arfordiroedd y Cefnfor Tawel yng Nghanada, Unol Daleithiau America a Mecsico. Ceir Eliffantod Môr y De yn Hemisffer y De ar ynysoedd megis De Georgia ac Ynys Macquarie yn ogystal ag arfordiroedd Seland Newydd, Tasmania, De Affrica, yr Ariannin a Tsile.

Mae eliffantod môr yn dychwelyd bob blwyddyn i'w magwrfeydd lle mae'r gwrywod yn ymladd yn ffyrnig am diriogaeth lle gallant sefydlu eu haremiaid o fenywod.

Cyfeiriadau

  1. Elephant seals (yn Saesneg). Friends of the Elephant Seal. San Luis Obispo, Calif.: Central Coast Press. 1999. ISBN 9780965877695. OCLC 44446823.CS1 maint: others (link)
  2. Thewissen, Würsig, and Perrin, J.M., B.G., and W.F. (2009). Encyclopedia of Marine Mammals (yn Saesneg). Amsterdam: Academic Press.CS1 maint: multiple names: authors list (link)

Oriel