Rhanbarth yng Ngroeg yr Henfyd oedd Elis, neu Eleia (Groeg diweddar: Ήλιδα Ilida, Hen Roeg: Ἦλις, hefyd Ēlis, Groeg Dorig: Ἆλις). Mae'n cytateb i Dalaith Elis heddiw. Saif ar arfordir gorllewinol y Peloponnesos, gydag Achaea i'r gogledd, Arcadia i'r dwyrain a Messenia i'r de.