Cafodd Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2010 ei gynnal ar 6 Mai, 2010 er mwyn ethol Aelodau Seneddol. Cystadlodd pleidiau gwleidyddol am 650 sedd yn Nhŷ'r Cyffredin y Deyrnas Unedig sef îs-dŷ Senedd y Deyrnas Unedig, oherwydd ni chaiff aelodau Tŷ'r Arglwyddi eu hethol. O'i gymharu â'r etholiad cyffredinol blaenorol cafwyd pedair sedd ychwanegol. Cyhoeddwyd yr etholiad gan Gordon Brown, Prif Weinidog y DU, ar 6 Ebrill 2010 a datgorffwyd y senedd ar 12 Ebrill er mwyn dechrau ar yr ymgyrchoedd etholiadol. Digwyddodd y pleidleisio rhwng 7.00 yb a 10.00 yh. Cynhaliwyd rhai etholiadau lleol mewn rhai ardaloedd ar yr un diwrnod.
Nod y Blaid Lafur oedd dychwelyd i'w pedwerydd tymor mewn pŵer ac adfer y cefnogaeth a gollwyd ers 1997.[2] Anelodd y Blaid Geidwadol at adfer eu safle dominyddol yng ngwleidyddiaeth y Deyrnas Unedig ar ôl iddynt golli nifer o seddau yn ystod y 1990au, ac i gipio safle'r Blaid Lafur fel y blaid lywodraethol. Gobeithiodd y Democratiaid Rhyddfrydol i ennill mwy o seddau wrth y Blaid Lafur a'r Ceidwadwyr; yn ddelfrydol, buasent hwythau eisiau ffurfio llywodraeth eu hunain, er nod mwy realistig fyddai i fedru ffurfio llywodraeth clymbleidiol.
Pleidleisiodd 1,466,685 o'r 2,265,125 o bobl ar y cofrestr etholiadol yng Nghymru - cynulliad o 64.75%. Roedd y cynulliad gorau o 72.66% yng Ngogledd Caerdydd, ble roedd brwydr agos iawn rhwng Jonathan Evans (Ceidwadwyr) a Julie Morgan (Llafur), a'r cynulliad isaf (54.62%) yn Nwyrain Abertawe. Etholwyd aelod o'r Blaid Lafur i gynrychioli 26 etholaeth, 8 aelod o'r Blaid Geidwadol, 3 Aelod Seneddol o Blaid Cymru a 2 AS Democratiaid Rhyddfrydol.
Mae'r tabl isod yn rhestru'r canlyniadau ym mhob un ohonynt. Roedd nifer eraill o ymgeiswyr mewn gwahanol etholaethau - rhai yn sefyll yn annibynnol ac eraill fel aelod o blaid arall. Dim ond canlyniadau'r prif bleidiau a rhestrir yma.[3]