Ferdinand I, Ymerawdwr Glân Rhufeinig
Ferdinand I, Ymerawdwr Glân Rhufeinig | |
---|---|
Ganwyd | 10 Mawrth 1503, 10 Mawrth 1503 Alcalá de Henares |
Bu farw | 25 Gorffennaf 1564, 25 Gorffennaf 1564 Fienna |
Dinasyddiaeth | yr Ymerodraeth Lân Rufeinig |
Galwedigaeth | pendefig, teyrn, gwleidydd |
Swydd | Ymerawdwr Glân Rhufeinig, Prince-Elector, brenin Bohemia, brenin Hwngari |
Tad | Felipe I, brenin Castilla |
Mam | Juana o Castilla |
Priod | Anne o Bohemia a Hwngari |
Plant | Elizabeth of Austria, Maximilian II, Ymerawdwr Glân Rhufeinig, Archdduges Anna o Awstria, Ferdinand II, Archduke of Austria, Archdduges Maria o Awstria, Archduchess Magdalena of Austria, Catherine of Austria, Archduchess Eleanor of Austria, Margaret of Austria, John of Habsburg, Archduchess Barbara of Austria, Siarl II, Ursula von Habsburg, Archduchess Helena of Austria, Johanna o Awstria |
Perthnasau | Louis II of Hungary, Vladislaus II o Bohemia a Hwngari, Isabella Clara Eugenia of Spain, Ferdinand III, Ferrando II, Isabel I, brenhines Castilla, Maximilian I, Maria van Bourgondië |
Llinach | Habsburg |
Gwobr/au | Marchog Urdd y Cnu Aur, Urdd y Gardas |
Tywysog o gyff Sbaenaidd Tŷ Hapsbwrg oedd Ferdinand I (10 Mawrth 1503 – 25 Gorffennaf 1564) a fu'n Ymerawdwr Glân Rhufeinig o 1556 i 1564, yn Frenin Bohema, Hwngari a Chroatia o 1526 i 1564, ac yn Archddug Awstria o 1521 i 1564.
Ganed yn Alcalá de Henares, Castilia, yn fab i Philip Olygus, Dug Bwrgwyn, a Juana, etifeddes debygol i Goronau Castilia ac Aragon. Cafodd Ferdinand ei fagu a'i addysgu yn Sbaen. Esgynnodd Juana i orsedd Castilia yn 1504 ac Aragon yn 1516. Bu farw Philip yn 1506, rhai misoedd wedi iddo gael ei gyhoeddi yn Frenin Castilia, y cyntaf o deulu'r Hapsbwrgiaid i deyrnasu dros Sbaen. Daeth brawd hŷn Ferdinand, Siarl, yn frenin cyntaf Sbaen yn 1516 ac yn Ymerawdwr Glân Rhufeinig yn 1519, a dan ei reolaeth bu tiriogaeth y Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd ar ei hanterth. Roedd gan Ferdinand a Siarl bedwar chwaer: Eleanor, Brenhines Gydweddog Portiwgal a Ffrainc; Isabella, Brenhines Gydweddog Denmarc, Norwy a Sweden; Mair, Brenhines Gydweddog Hwngari a Bohemia a Llywodraethwr yr Iseldiroedd Hapsbwrgaidd; a Catrin, Brenhines Gydweddog Portiwgal.
Rhoddwyd tiriogaethau'r Hapsbwrgiaid yng Nghanolbarth Ewrop yng ngofal Ferdinand, a fe'i penodwyd yn Archddug Awstria ac yn Rhaglyw Württemberg. Am ddeng mlynedd ar hugain a mwy, Ferdinand oedd yn ddirprwy ei frawd yn nhiroedd Almaenig y Hapsbwrgiaid, a gwasanaethodd yn llywydd y Reichsregiment, cyngor llywodraethol yr Ymerodraeth Lân Rufeinig, ac yn gynrychiolydd mewn cynulliadau ymerodrol.[1] Yn sgil marwolaeth Lewis II, Brenin Hwngari a Bohemia, a oedd yn briod i'w chwaer Mair, ym Mrwydr Mohács yn 1526, etholwyd Ferdinand yn Frenin Bohemia a Hwngari a fe drodd y coronau hynny yn eiddo i etifeddion Tŷ Hapsbwrg. Hawliwyd Teyrnas Hwngari hefyd gan János Zápolya, a chytunodd y ddau frenin i rannu'r wlad rhyngddynt yn ôl Cytundeb Nagyvárad (1538). Bu Ferdinand hefyd yn wynebu bygythiad yr Ymerodraeth Otomanaidd, a lwyddodd i goncro rhannau o Hwngari ym Mrwydr Mohács. Methiant a fu'r gwarchae Otomanaidd ar Fienna yn 1529.
Roedd Ferdinand yn Babydd pybyr ac yn gwrthwynebu'r Diwygiad Protestannaidd. Cynhaliwyd Cymanfaoedd Speyer (1526 a 1529) ganddo, ac ymdrechodd i orfodi Gorchymyn Worms ac i sefydlogi'r Eglwys Gatholig ar draws yr Ymerodraeth Lân Rufeinig. Yn sgil Brwydr Lauffen yn 1534, cipiwyd Württemberg gan Philip I, Landgraf Hessen, un o arweinwyr y Lwtheriaid, a bu'n rhaid i Ferdinand gydnabod adferiad y Dug Ulrich. Yn 1546–47, cynorthwyodd Ferdinand yn yr ymgyrch Hapsbwrgiaid i drechu lluoedd Protestannaidd Cynghrair Schmalkalden. O'r diwedd cydnabu Ferdinand yr angen i gymodi'r Catholigion a'r Protestaniaid, a sicrhaodd Gytundeb Passau (1552) gyda Mortiz, Etholydd Sachsen, ac Heddwch Augsburg (1555) rhwng yr Ymerodraeth Lân Rufeinig a Chynghrair Schamlkalden.
Yn sgil ymddiorseddiad Siarl V yn 1556, rhennid tiriogaethau'r Hapsbwrgiaid rhwng ei fab Philip II, brenin Sbaen, a Ferdinand a goronwyd yn Ymerawdwr Glân Rhufeinig yn 1558. Aeth ati i ganoli gweinyddiaeth yr ymerodraeth ac i adfywio'r ffydd Gatholig yn ei diriogaethau. Bu'n rhaid i Ferdinand gytuno i dalu teyrnged i'r Otomaniaid yn 1562 am ei diriogaeth yng ngorllewin Hwngari. Bu farw Ferdinand yn Fienna yn 61 oed, a fe'i olynwyd yn Ymerawdwr Glân Rhufeinig gan ei fab Maximilian II.[1]
Cyfeiriadau
- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Ferdinand I (Holy Roman emperor). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 31 Mawrth 2020.
Rhagflaenydd: Siarl V |
Ymerawdwr Glân Rhufeinig 1556 – 1564 |
Olynydd: Maximilian II |