Ffilm_llawn_cyffro

Ffilm llawn cyffro
Enghraifft o'r canlynolgenre mewn ffilm Edit this on Wikidata
Mathffuglen llawn cyffro, ffilm Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Ffilm yn y genre ffuglen llawn cyffro yw ffilm llawn cyffro, hynny yw stori llawn antur ac ymladd sy'n canolbwyntio ar arwr neu'r arwyr yn brwydro'n erbyn dyn drwg.

Gellir ystyried nifer o ffilmiau ysbïo, trosedd, rhyfel, a'r Gorllewin Gwyllt yn ffilmiau llawn cyffro cynnar. Datblygodd y genre yn y 1970au, yn enwedig gan ffilmiau crefftau ymladd Hong Kong a Japan. Yn y 1980au datblygodd y genre yn yr Unol Daleithiau, gyda sêr megis Arnold Schwarzenegger, Sylvester Stallone, a Bruce Willis. Mae nifer o ffilmiau llawn cyffro Americanaidd yn enwog am eu llinellau bachog (one-liners).[1] Ym mlynyddoedd diweddar mae ffilmiau archarwyr wedi cymryd lle ffilmiau llawn cyffro i raddau.

Cyfeiriadau

  1. (Saesneg) Lichtenfeld, Eric (26 Mehefin 2007). Yippee-Ki-Yay ... : The greatest one-liner in movie history. Slate. Adalwyd ar 24 Chwefror 2013.
Eginyn erthygl sydd uchod am ffilm llawn cyffro. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.